Ioan 4

4
Yr Iesu a’r Wraig o Samaria
1Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan 2(er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef), 3efe a adawodd Jwdea, ac a aeth i Galilea.
4Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria. 5Efe a ddaeth gan hynny i dref yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff. 6Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly wrth y ffynnon. Ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
7Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr. A’r Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Dyro i mi i yfed.’ 8Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r dref i brynu bwyd. 9Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, ‘Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? Oblegid nid yw’r Iddewon yn cyfeillachu â’r Samariaid.’ 10Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, ‘Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, dyro i mi i yfed, tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.’
11Y wraig a ddywedodd wrtho, ‘Syr, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn. O ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? 12Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion a’i anifeiliaid?’ 13Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, ‘Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn. 14Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd. Eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.’
15Y wraig a ddywedodd wrtho, ‘Syr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.’ 16Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.’ 17Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Da y dywedaist, nid oes gennyf ŵr. 18Canys pump o wŷr a fu i ti, a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti. Hyn a ddywedaist yn wir.’
19Y wraig a ddywedodd wrtho ef, ‘Syr, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. 20Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli.’ 21Iesu a ddywedodd wrthi hi, ‘O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. 22Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch; ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom; canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. 23Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd; canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. 24Ysbryd yw Duw, a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.’
25Y wraig a ddywedodd wrtho, ‘Mi a wn fod y Meseia yn dyfod, yr hwn a elwir Crist. Pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.’ 26Iesu a ddywedodd wrthi hi, ‘Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.’
27Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion, a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig; er hynny ni ddywedodd neb, ‘Beth a geisi?’ neu, ‘Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?’ 28Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r dref, ac a ddywedodd wrth y dynion, 29‘Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. Onid hwn yw’r Crist?’ 30Yna hwy a aethant allan o’r dref, ac a ddaethant ato ef.
Y Cynhaeaf yn Barod
31Yn y cyfamser y disgyblion a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, ‘Rabbi, bwyta.’ 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi amdano.’ 33Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, ‘A ddug rhywun iddo beth i’w fwyta?’
34Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. 35Onid ydych chwi yn dywedyd, “Y mae eto bedwar mis ac yna y daw’r cynhaeaf?” Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, dyrchefwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. 36A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol, fel y byddo i’r hwn sydd yn hau ac i’r hwn sydd yn medi lawenychu ynghyd. 37Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. 38Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch; eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.’
Iachawdwr y Byd
39A llawer o’r Samariaid o’r dref honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, ‘Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.’ 40Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a ofynasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. 41A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. 42A hwy a ddywedasant wrth y wraig, ‘Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di, canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.’
Iacháu Mab y Swyddog
43Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno ac a aeth i Galilea. 44Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun. 45Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a’i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl; canys hwythau a ddaethent i’r ŵyl.
46Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog llys yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum. 47Pan glywodd hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a ddeisyfodd arno ddyfod i waered a iacháu ei fab ef; canys yr oedd efe ymron marw.
48Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, ‘Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.’ 49Y swyddog a ddywedodd wrtho ef, ‘Syr, tyred i waered cyn marw fy machgen.’
50Iesu a ddywedodd wrtho ef, ‘Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw.’ A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith. 51Ac fel yr oedd efe eisoes yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, ‘Y mae dy fachgen yn fyw.’ 52Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, ‘Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.’ 53Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, ‘Y mae dy fab yn fyw.’ Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ.
54Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Ioan 4: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക