Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Mathew 5

5
1Pan welodd ef faint y dyrfa, aeth Iesu i fyny i'r mynydd, ac wedi iddo eistedd fe ddaeth ei ddisgyblion ato. 2Fe ddechreuodd yntau siarad, a'u dysgu hwy, fel hyn:
3“Gwyn fyd y rhai sy'n wylaidd fel y tlodion; nhw' biau teyrnas y nefoedd.
4“Gwyn fyd y rhai sy'n gofidio; nhw' fydd yn derbyn cysur.
5“Gwyn fyd y rhai hawdd eu trin; fe ddaw'r ddaear yn eiddo iddyn' nhw'.
6“Gwyn fyd y rhai sy'n newynu ac yn sychedu am ddaioni; fe gân' nhw ddigonedd.
7“Gwyn fyd y rhai sy'n drugarog: nhw' fydd yn cael trugaredd.
8“Gwyn fyd y rhai di-feddwl-ddrwg; nhw' fydd yn gweled Duw.
9“Gwyn fyd y rhai sy'n cymodi; fe'u gelwir nhw'n blant i Dduw.
10“Gwyn fyd y rhai sy wedi'u cam-drin o achos daioni: nhw' biau teyrnas y nefoedd.
11“Gwyn, eich byd chithau pan fydd pobol yn eich condemnio a'ch cam-drin, ac yn lladd arnoch-chi'n gelwyddog ym mhob sut a modd er fy mwyn i. 12Byddwch yn falch o hynny ac yn ysgafn eich calon; felly'n union y buon-hw'n erlid y proffwydi cyn eich amser chi.
13“Chi ydy' halen y ddaear. Ond os collodd yr halen ei flas, sut y gwneir-e'n hallt unwaith eto? 'D yw-e'n dda i ddim ond i'w daflu allan a'i sathru dan draed.
14“Chi yw goleuni'r byd. Os yw dinas wedi'i chodi ar ben bryn, 'd oes dim modd ei chuddio-hi. 15A 'd oes neb yn cynnau lamp ac yn ei rhoi-hi dan badell, ond ar ei stand, er mwyn iddi roi golau i bawb sy'n y tŷ. 16Fel yna y dylai'ch golau chi dywynnu o flaen dynion, er mwyn iddyn-hw' weld y pethau da a wnewch-chi, a rhoi'r clod i'ch Tad yn y nefoedd.
17“Peidiwch â meddwl fy mod i yma i ddinistrio'r Gyfrainth neu'r Proffwydi; nid i'w dinistrio-nhw' y deuthum i, ond i'w cwblhau-nhw'. 18Credwch fi, fe fydd yn rhaid i'r nefoedd a'r ddaear ddiflannu cyn i un dot nac un coma ddiflannu o'r Gyfraith: rhaid iddi orffen ei gwaith. 19Felly, pwy bynnag sy'n llac ynglŷn ag un o'r gorchmynion hyn, hyd yn oed y lleiaf ohonyn-hw' ac yn dysgu i bobol eraill fod yr un fath, hwnnw fydd yn cyfri leiaf yn nheyrnas y nefoedd. Ond pwy bynnag sy'n eu cadw-nhw' ac yn eu dysgu-nhw' i eraill, fe fydd hwnnw'n cyfri llawyer yn nheyrnas y nefoedd. 20'Rwy'n dweud wrthych-chi, os na fydd eich daioni chi'n tra rhagori ar ddaion'r ysgrifenyddion a'r Ffariseaid, 'd ewch-chi ddim i mewn i deyrnas y nefoedd.
21“Fe glywsoch beth 'ddyweddwyd wrth y bobol 'slawer dydd: ‘Na ladd’. Ac mae'n rhaid i bob llofrudd ateb o flaen llys barn. 22Ond yr ydw' i'n dweud wrthych-chi fod yn rhaid i bob un sy'n gas wrth ei frawd ateb o flaen llys barn; fod yn rhaid i bwy bynnag sy'n galw'i frawd yn ffŵl wynebu'r llys uchaf; a bod pwy bynnag sy'n ystyried ei frawd yn anobeithiol yn mynd ar ei ben i dân Gehanna.
23“Felly, pan ddoi-di â'th rodd at yr allor, a chofio fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn-di, gad dy rodd yno o flaen yr allor, a dos oddi yno. 24Pan fyddi di a'th frawd yn ffrindiau unwaith eto, dyna'r pryd y doi-di'n ôl i gynnig dy rodd.
25“Os bydd rhywun yn dod ag achos yn dy erbyn-di, gwna gytundeb ag o tra fyddwch eich dau ar y ffordd, rhag iddo dy roi-di yn llaw'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi-di yng ngafael y swyddog, a'th daflu-di i garchar. 26Cred di fi, 'ddoi-di ddim o'r fan honno nes iti dalu'r ffyrling olaf.
27“Fe glywsoch beth 'ddywedwyd wrth y bobol ers talwm: ‘Na wna odineb’. 28Ond dweud yr ydw' i fod pob dyn sy'n llygadu gwraig mewn blys wedi gwneud godineb â hi'n barod yn ei galon.
29“Os yw lygad de'n dy arwain-di ar gyfeiliorn, tynn-o allan a'i daflu i ffwrdd; gwell iti golli un o'th aelodau na chael dy gorff i gyd ar domen Gehenna#5:29 Gehenna: ‘Glyn Hinnom’, dyffryn dan furiau de-orllewinol Jeriwsalem. Yno ar un adeg y llosgid plant neu'n gyrru drwy'r tân mewn seremoni baganaidd. Daeth y lle'n atgas i'r Iddewon; teflid ysbwriel y ddinas yno, a chadw tân i losgi yno'n barhaus. Mi dybiais mai gwell oedd cadw Gehenna yn hytrach na'i gyfieith'n ‘uffern’, oherwydd y darlun hwn.. 30Os yw dy law dde'n dy arwain-di ar gyfeiliorn, torr-hi i ffwrdd a'i thaflu; gwell iti golli un o'th gymalau na chael dy gorff i gyd ar domen Gehenna.
31“Fe ddywedid 'slawer dydd: ‘Pwy bynnag sydd yn ysgaru'i wraig, rhoed iddi dystysgrif ysgariad.’ 32Ond dweud yr ydw' i fod pwy bynnag sy'n ysgaru'i wraig, heb iddi fod yn anffyddlon iddo, yn ei gwneud hi'n anffyddlon; a bod pwy bynnag sy'n priodi gwraig wedi'i hysgar yn gwneud godineb.
33“Eto, fe glywsoch beth 'ddywedwyd wrth y bobol erstalwm: na ddylai neb wneud llw heb fwriadu'i gadw, ond y dylid cadw pob llw a wnaed i'r Arglwydd. 34Ond yr ydw i'n dweud wrthych-chi: 35paid â thyngu llw o gwbwl — yn enw'r nefoedd, o achos gorsedd Duw yw hi, nac yn enw'r ddaear, am mai hi yw ei droedfainc ef, nac yn enw Jerwsalem, am mai dinas y Brenin mawr yw hi. 36A phaid â thyngu wrth dy ben, gan na elli di ddim gwneud blewyn, na gwyn na du. 37Wrth siarid, gwnewch i'ch ‘ie’ olygu ‘ie’, a'ch ‘nage’ olyygu ‘nage’; beth bynnag a ddywedir dros ben, mae rhyw ddrwg y tu ôl iddo.
38“Fe glywsoch ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant’. 39Ond dweud yr ydw' i na ddylech-chi ddim gwrthsefyll y sawl sy am wneud niwed ichi. Os oes rhywun yn dy daro-di ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd. 40Os oes rhywun yn mynd i gyfraith yn d'erbyn-di er mwyn cael dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. 41Os oes rhywun yn d'orfordi i fynd un filltir gydag e', cer' gydag e' am ddwy. 42Rho i'r dyn sy'n gofyn gen ti, a phaid â throi oddi wrth y dyn sydd am gael benthyg.
43“Fe glywsoch ddweud. ‘Rhaid iti garu dy gymydog a chasáu dy elyn’. 44Ond yr ydw' i'n dweud y dylech-chi garu'ch gelynion, (bendithio'r rhai sy'n eich rhegi-chi, gwneud da i'r rhai sy'n eich casáu-chi) a gweddïo dros y rhai sy'n eich erlid-chi; 45felly y byddwch-chi'n blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd. Mae o'n gwneud i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn anfon glaw ar ddynion cywir a rhai anwir.
46“Os nad ydych-chi'n caru neb ond y rhai sy'n eich caru chi, pa ddiolch sydd ichi am hynny? Onid yw casglyddion y dreth yn gwneud hynny hefyd? 47Ac os nad ŷch-chi'n cyfarch neb ond eich ffrindiau, beth sy'n arbennig yn hynny? ‘Ydy'r paganiaid ddim yn gwneud yr un peth? 48Ond yr ydych chi i fod yn berffaith, fel y mae'ch Tad nefol yn berffaith.

Currently Selected:

Mathew 5: MATIFE61

Tya elembo

Kabola

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo