Fel hyn y digwyddodd genedigaeth Iesu Grist. Yr oedd ei fam, Mair, wedi'i dyweddïo i briodi Joseff, ond cyn iddynt fyw gyda'i gilydd fe gafwyd ei bod hi'n disgwyl plentyn gan yr Ysbryd Glân. Am fod Joseff ei darpar-ŵr yn ddyn teg, nid oedd am ei gwneud hi'n destun siarad, ac fe benderfynodd ei rhyddhau hi o'i phriodas yn ddstaw.