성경 앱 로고
검색 아이콘

Eseia 4

4
1Bryd hynny,
bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn,
ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di –
Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain,
a gwisgo’n dillad ein hunain.
Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!”#4:1 cymer ein cywilydd ni i ffwrdd Os oedd gwraig heb ŵr a phlant, roedd yn achos cywilydd mawr.
Bydd yr ARGLWYDD yn bendithio’i bobl
2Bryd hynny,
bydd blaguryn yr ARGLWYDD
yn rhoi harddwch ac ysblander,
a bydd ffrwyth y tir
yn cynnig urddas a mawredd
i’r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
3Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion
ac wedi’u gadael yn Jerwsalem
yn cael eu galw’n sanctaidd –
pawb yn Jerwsalem sydd i fod i gael byw.
4Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhau
budreddi merched Seion,
bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –
drwy farnu a charthu.
5Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydd
a thân yn llosgi yn y nos,#Exodus 13:21; 24:16; 40:36-38
a’u gosod uwchben y cysegr a’r man cyfarfod ar Fynydd Seion.
Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.
6Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,
ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.

선택된 구절:

Eseia 4: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요