성경 앱 로고
검색 아이콘

Esther 10

10
Mordecai yn fwy a mwy enwog
1Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol – yr holl ffordd i’r arfordir a’r ynysoedd ar ymylon y deyrnas. 2Mae’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a’r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi’u cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia. 3Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i’r Iddewon ac yn cael ei edmygu’n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai’r cenedlaethau i ddod yn saff.

선택된 구절:

Esther 10: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요