Mathew RHAGAIR

RHAGAIR
Yr oedd gennym wrth law y cyfieithiad a wnaethpwyd o’r ddwy bennod ar hugain gyntaf gan Bwyllgor Bangor â Syr John Morris-Jones yn y gadair. Afraid yw dweud y gallwyd yn hawdd dderbyn llawer ohono, a bod i’r hen bwyllgor a’i gadeirydd, felly, ran bwysig yn y cyfieithiad a gyflwynir yn awr. Nid teg, serch hynny, osod dim o’r cyfrifoldeb amdano arnynt hwy, oblegid cymerasom ni ein rhyddid i newid cryn lawer ar eu gwaith.
Bellach, wedi cyhoeddi Efengyl Mathew, erys y gwaith o ddileu’r anghydfod na allai lai na chodi, gyda threigl yr amser a dreuliwyd i’w trosi, rhwng y tair Efengyl Gyfolwg yn eu gwisg newydd.
Testun Nestle a ddilynwyd wrth gyfieithu.
D. Emrys Evans.
Ifor Williams.
Rhagfyr, 1944.
Yn ôl Mathew

선택된 구절:

Mathew RHAGAIR: CUG

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요