Genesis 3

3
Genesis 3:7-14
7Ac agorwyd eu llygaid hwy ill dau, a gwybuant mai noethion oeddynt hwy, a gwniasant ddail ffigysbren, a gwnaethant iddynt eu hunain wregysau, 8a chlywsant swn Iehofah Elohim yn rhodio yn yr ardd gydag awel y dydd, ac ymguddiodd y dyn a’i wraig rhag golwg Iehofah Elohim ynghanol prenau’r ardd. 9A galwodd Iehofah Elohim ar y dyn, a dywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti? 10A dywedodd efe, Dy swn a glywais yn yr ardd, ac ofnais gan mai noeth wyf fi, ac ymguddiais. 11A dywedodd Efe, Pwy a fynegodd i ti mai noeth wyt ti? Ai o’r pren yr hwn y gorchymynais i ti beidio a bwytta o hono, y bwyteais? 12A dywedodd y dyn, Y wraig yr hon a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a bwytteais. 13A dywedodd Iehofah Elohim wrth y wraig, Pa beth yw hyn a wnaethost? A dywedodd y wraig, Y Sarph a’m twyllodd, a bwytteais. 14A dywedodd Iehofa Elohim wrth y Sarph, Am wneuthur o honot hyn, melltigedig wyt ti allan o’r holl anifeiliaid, ac allan o holl fwystfilod y maes: ar dy dorr yr âi, a llwch a fwyttai holl ddyddiau dy einioes.

선택된 구절:

Genesis 3: CTB

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요

YouVersion은 여러분의 경험을 개인화하기 위해 쿠키를 사용합니다. 저희 웹사이트를 사용함으로써 여러분은 저희의 개인 정보 보호 정책에 설명된 쿠키 사용에 동의하게 됩니다