Genesis 1

1
1Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a’r ddaear. 2A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. 3A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. 4A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. 5A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. 7A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. 8A’r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
9 DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. 10A’r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd. 11A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. 12A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd. 13A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
14 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. 15A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. 16A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe. 17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear, 18Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd. 19A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. 21A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd. 22A DUW a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, 23A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.
24 DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. 25A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
26 DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 27Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. 28DUW hefyd a’u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.
29A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi. 30Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. 31A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.

선택된 구절:

Genesis 1: BWMA

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요

YouVersion은 여러분의 경험을 개인화하기 위해 쿠키를 사용합니다. 저희 웹사이트를 사용함으로써 여러분은 저희의 개인 정보 보호 정책에 설명된 쿠키 사용에 동의하게 됩니다