Marc 1

1
Ioan Fididdiwr in prigethu
1-3Tima shwt ddachreuodd ifingyl Iesu Grist, crwt Duw. Co be sy di câl i reito in llifyr Eseia'r proffwd:
“Dricha ma! dwi'n mynd i hala in gennad o di flân di
a fe glirith e lwybyr iti.
Ma llaish rhiwun in gweiddi miwn lle diffeth,
‘Newch hewl ir Arglwi in barod,
Newch i lwybre fe'n gowir’.”
4-8A fel 'na ddâth Ioan i silw dinion. Wedd‐e mas miwn lle diffeth in bediddio, a wedd‐e'n prigethu ddile dinion ddifaru, câl u bididdio, a wedyn câl madde u pechode. A âth pob wan jac we'n byw in gwlad Jiwdea, fel i dinion i gyd we'n byw in Jeriwsalem, mas ato fe fan‐'ny. A fel wedd‐e'n u bididdio nhwy in afon Iorddonen wên‐nhwy'n cifadde beth we'u pechode nhwy. We Ioan in gwishgo dillad wedi neud mas o flew camel a we belt leder 'dag e am i ganol, a locustied a mêl gwyllt we'i fwyd e. A co beth we Ioan in prigethu: “Ma rhiwun in dwâd ar in ôl i, rhiwun sy'n grifach na fi. Sena‐i'n ddyn digon da i ddatod lasys i sgidje fe hyd 'n‐ôd. Bididdies i chi 'da dŵr, on bydd e'n ich bididdio chi 'da'r Isbryd Glân.”
Iesu'n câl i fididdio a dachre ar i waith
9-15A 'na'r amser ddâth Iesu, o Nasareth in Galilea, a bididdiodd Ioan e in afon Iorddonen. A wrth'o ddwâd lan o'r dŵr gwelodd‐e'r nefodd in hollti'n agor a'r Isbryd, fel colomen, in dishgyn arno. A dâth llaish o'r nefodd in gweud: “Ti yw'n unig Grwt i, ing Grwt annwil i, a wit‐ti wrth in fodd i.”
Whap ar ôl 'ny halodd ir Isbryd Iesu mas i le diffeth am ddeugen dwarnod. A fan'ny buodd Satan in i demto fe. A na lle wedd‐e in ganol i creduried gwyllt, a we'r angilion in drich ar i ôl e.
Wedi i Ioan gâl i aresto a'i roi in i shâl dâth Iesu i Galilea in prigethu ifingyl Duw. “Ma'r amser wedi dwâd” medde fe “a ma teyrnas Duw ar in pwys ni. Rhaid i chi ddifaru a credu bo'r ifingyl in wir.”
Pedwar pisgotwr in dilyn Iesu
16-20A fel we Iesu'n cered ar bwys Llyn Galilea gwelodd‐e Seimon a'i frawd e, Andreas, in towlu rhwydi i'r dŵr — achos pisgota we'u gwaith nhwy chi'n gweld. A wedo Iesu wrthon nhwy, “Dewch ar in ôl i a fe 'na i chi'n rhei sy'n pisgota ar ôl dinion.” A gadon‐nhwy u rhwydi ar unweth a'i ddilyn e. Wedi 'ddo fynd in i flân tamed bach gwelodd‐e Iago crwt Sebedeus a'i frawd e, Ioan; wên‐nhwy wrthi'n helpu'r rhwydi in i cwch. Galwodd‐e arnon nhwy i ddwâd ar i ôl e fyd. A tima nhwy'n gadel u tad Sebedeus fan‐'ny, in i cwch 'da'r gweishon, a mynd bant a dilyn Iesu.
Iesu'n hala isbryd drwg mas o'r dyn in sinagog Capernaum
21-28Ethon‐nhwy hys Capernaum. A dy' Saboth âth Iesu miwn i'r sinagog a dachre disgu. We dinion in sinnu at beth wedd‐e'n ddisgu achos wedd‐e'n disgu fel rhiwun â comands 'dag e, a ddim fel i rhei we'n arfer disgu'r Gifreth. In u sinagog nhwy we dyn ag isbryd drwg indo fe. Gweiddodd ir isbryd 'ny mas in uchel, “Be ti moyn neud i ni, Iesu o Nasareth? Wit‐ti 'di dwâd i'n pennu ni bant? Dwi'n gwbod pwy wit‐ti — ti yw Un Sanctedd Duw.” Ond wedo Iesu wrtho fe'n blaen: “By dawel! Dere mas ono fe!” Shiglodd ir isbryd drwg i dyn o'i ben i'w drâd e, a wrth ir isbryd weiddi'n uchel fe ddâth e mas o'r dyn. Gas bob un u sinnu shwt gwmint fel dachreuon‐nhwy holi'i gily, “Beth yw hyn? Co ddisgeidieth newy ma rhaid i marco hi! Ma hwn hyd 'n‐ôd in rhoi ordors i'r isbridion drwg a man‐nhwy'n grondo arno fe!” A whap âth ir hanes amdano fe trw Galilea pentigily.
Gwella lot o ddinion
29-34Gadon‐nhwy'r sinagog wedyn a ethon‐nhwy i dŷ Seimon a Andreas gida Iago a Ioan. A we mam‐ing‐nghifreth Seimon in gorwe in dost in i gwely — we twymen arni hi. Wedon‐nhwy wrth Iesu amdeni a fe âth‐e ati a cidjo in i llaw hi a'i chodi 'ddi lan. Gadodd i salwch hi, a dachreuodd‐i ddrich ar u hôl nhwy.
Gida'r nos, wedi'r houl fynd lawr, dethon‐nhwy â pob un we ddim in dda a rhei we â cithreiled indon nhwy ato fe. A we bob un we'n byw in i dre wedi casglu rownd i drws. Gwellodd‐e lot fowr o ddinion we'n dost 'da bob mathe o bethe, a fe dowlodd‐e lot o githreiled mas o ddinion, on wedd‐e ddim in gadel i'r cithreiled weud gair, achos wên‐nhwy in i nabod e'n iawn.
Iesu'n mynd rownd in pregethu
35-39In ginnar in i bore, pan wedd‐i o hyd in dewill, cododd Iesu a mynd mas. Âth‐e bant i le ar ben i 'unan a gweddïo fan‐'ny. Âth Seimon a'i ffrinds i wilio amdano fe. Wedi nhwy ffindo fe wedon‐nhwy wrtho fe, “Ma bob un in drich amdanot ti.” Atebodd‐e nhwy, “Gadwch ni fynd mlân i rywle arall, i'r trefi nesa, fel galla i bregethu fan‐'ny fyd; achos na pam ddês i mas.” Âth‐e trw Galilea pentigily in pregethu in u sinagoge nhwy ac in towlu mas cithreiled.
Gwella'r dyn â cwrên tost
40-45Dâth dyn â cwrên tost ato fe, âth e lawr ar i benlinie a begian, “Os wit ti moyn, galli di in wella i'n iawn.” Cwmrodd Iesu dreni drosto fe a mistinodd e i law a cwrdd ag e a gweu'tho fe, “Wrth gwrs bo fi moyn di wella di.” Gadodd i clefyd e whap, a fe gas e i wella. Halodd Iesu fe bant ar unweth a gweu'tho fe'n blaen, “Watsha di bo ti ddim in gweud dim byd wrth ddim un. Cer di a dangosa di'unan i'r ffeirad, a offrima beth wedo Moses ddilech‐chi offrimu i ddongos ich bo chi wedi gwella.” Ond fe âth i dyn bant a gweud ir hanes dros i lle i gyd; we shwt gwmint o ddinion wedi cliwed ir hanes fel bo Iesu in ffeili mynd miwn i unrhw dre'n fel wedd‐e. In lle 'ny we'n rhaid iddo fe aros tu‐fas, lle we neb in byw, ond wedyn weth we dinion in dwâd ato o fe o bobman.

ಪ್ರಸ್ತುತ ಆಯ್ಕೆ ಮಾಡಲಾಗಿದೆ:

Marc 1: DAFIS

Highlight

ಶೇರ್

ಕಾಪಿ

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy