Salmydd 25

25
SALM XXV.
M. S. Dymuniad. Eidduned.
1Fy enaid a ddyrchafaf fi
Hyd atat Ti, O! Arglwydd;
2Mi ymddiriedais ynot, Ner,
Na’m dyger i waradwydd.
4Dy ffyrdd, O! Arglwydd, eglurha,
A’th lwybrau yna rodiaf;
5Yn dy wirionedd tywys fi,
Can’s wrthyt Ti disgwyliaf.
6Dy dosturiaethau sydd erioed,
Gwiw genyt boed eu cofio;
7Na chofia i’m herbyn yn dy lid
Bechodau’m hie’nctyd eto
8-9Yr Arglwydd, uniawn yw a da,
Am hyn hyfforddia i lwyddiant
Wael bechaduriaid er eu bai,
Os llariaidd rai a fyddant.
10Ei lwybrau ydynt ras a gwir
Os cedwir ei gyfammod;
11Er mwyn dy enw maddeu, O! Dduw,
Can’s dirfawr yw fy mhechod.
12Y gŵr a ofno Dduw y nef
Yn ei ffordd Ef arweinir;
13Ei enaid erys mewn mwynhad,
A’r tir i’w hâd a roddir.
14Dirgelwch Ion sydd gyda’r rhai
Mewn ofn a’i gwasanaethant;
Ac o’i gyfammod Ef bob dydd
* Prawf newydd a dderbyniant.
15Fy llygaid arno’n wastad sydd,
O’r rhwyd yn rhydd fe’m gollwng;
16Wyf dlawd ac unig, trugarha
O! Dduw, er mor anheilwng.
17Mae’m calon gan ofidiau’n drom,
Dwg fi o’m cyfyngderau;
18Fy nioddefiadau, gwel a chlyw,
A maddeu, O Dduw fy meiau.
19Amlhaodd fy ngelynion cas,
Cadw dy was, O! Arglwydd;
20Mi ymddiriedais ynot, Ner,
Na’m dyger i waradwydd.
21Fy ngobaith, Arglwydd ynot sydd,
Perffeithrwydd fydd i’m cadw;
22O! Dduw caed Israel ei ryddhau
O’i gyfyngderau garw.

Chwazi Kounye ya:

Salmydd 25: SC1885

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte