Salmydd 21
21
SALM XXI.
7au. 4llin. Manchester. Nottingham.
1Yn dy nerth, O! Arglwydd da,
Brenin Seion lawenha;
2Rhoddaist iddo yn ddigoll
Ddymuniadau’i galon oll.
3Ti a’i synaist yn ei swydd
Gyda hael fendithion llwydd;
Rhoist yn goron ar ei ben
Goethaf aur y nefoedd wen.
4Dy addewid iddo a roes,
Pan ofynodd fythol oes; —
5Dwyfol fawredd, parch a bri,
Yn dy iachawdwriaeth Di.
* 6Ti a’i gwnaethost ef yn llawn
Byth o bob rhyw ddwyfol ddawn;
7Llawenycha yn dy ŵydd
Gydag ansigledig lwydd.
8Ei elynion yn ei law
Oll a syrthiant er eu braw;
9Tân o’i enau’u hysa hwy,
Ac ni welir monynt mwy.
12-13Cyfod, Arglwydd, yn dy nerth
Gwasgar y gelynion certh;
I’th gadernid rhoddwn fri,
Canwn a chanmolwn Di.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 21: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.
Salmydd 21
21
SALM XXI.
7au. 4llin. Manchester. Nottingham.
1Yn dy nerth, O! Arglwydd da,
Brenin Seion lawenha;
2Rhoddaist iddo yn ddigoll
Ddymuniadau’i galon oll.
3Ti a’i synaist yn ei swydd
Gyda hael fendithion llwydd;
Rhoist yn goron ar ei ben
Goethaf aur y nefoedd wen.
4Dy addewid iddo a roes,
Pan ofynodd fythol oes; —
5Dwyfol fawredd, parch a bri,
Yn dy iachawdwriaeth Di.
* 6Ti a’i gwnaethost ef yn llawn
Byth o bob rhyw ddwyfol ddawn;
7Llawenycha yn dy ŵydd
Gydag ansigledig lwydd.
8Ei elynion yn ei law
Oll a syrthiant er eu braw;
9Tân o’i enau’u hysa hwy,
Ac ni welir monynt mwy.
12-13Cyfod, Arglwydd, yn dy nerth
Gwasgar y gelynion certh;
I’th gadernid rhoddwn fri,
Canwn a chanmolwn Di.
Chwazi Kounye ya:
:
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.