Salmydd 12

12
SALM XII.
M. S. Dyfrdwy. Persia.
1O! achub, Arglwydd, aeth yn hwyr,
Can’s darfu’n llwyr y cyfiawn;
Twyllodrus ydyw teulu dyn,
Ac nid oes un yn ffyddlawn.
2Oferedd a lefarant hwy,
Calonau ddwy sydd iddynt;
4Gorfyddwn a’n tafodau ’n rhwydd,
A phwy sydd Arglwydd? meddynt.
5Cyfodaf, ebe Duw, yn awr
O herwydd mawr gamwri;
Mewn iachawdwriaeth rhof y tlawd
* O dan y gwawd sy’n poeni.
6Pur ydyw geiriau’n Harglwydd da,
Fel arian tra choethedig
O’i buro seithwaith mewn ffwrn dân; —
Pob sill yn lân brofedig.
7Fe geidw ei eiddo rhag y drwg,
8Tra yn eu golwg rhodia
Yr annuwiolion ar bob tu,
* A gwaeledd fry deyrnasa.

Chwazi Kounye ya:

Salmydd 12: SC1885

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte