Actau 18
18
Yn Corinth
1Ar Ă´l hyn gadawodd Paul Athen a mynd i Corinth.#18:1 Roedd Athen a Corinth yn ddinasoedd pwysig yn Achaia, De Gwlad Groeg. 2Yno dyma feân cyfarfod Iddew oâr enw Acwila oedd yn dod yn wreiddiol o Pontus. Roedd Acwila aâi wraig Priscila wedi symud i Corinth oâr Eidal ychydig cyn hyn, am fod yr ymerawdwr Clawdiws Cesar wedi gorchymyn fod pob Iddew i adael Rhufain. 3Gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw. 4Yna bob Saboth byddaiân mynd iâr synagog ac yn ceisio perswadio Iddewon a Groegiaid i greduâr newyddion da.
5Ar Ă´l i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethuân llawn amser, a dangos yn glir iâr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia. 6Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. âArnoch chi maeâr bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!â meddai, âDw i wedi gwneud beth dw iân gallu. O hyn ymlaen dw iân mynd at bobl y cenhedloedd eraill.â
7Aeth Paul i aros yn nhš Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa iâr synagog. 8Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dš, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.
9Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: âPaid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw. 10Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw iân mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.â 11Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw iâr bobl.
12Tra oedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dymaâr arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e iâr llys. 13Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd, âPerswadio pobl i addoli Duw mewn ffyrdd anghyfreithlon.â
14Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: âPetaech chi Iddewon yn dod ââr dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn iân caniatĂĄu iâr achos fynd yn ei flaen. 15Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gydaâr mater eich hunain. Dw iân gwrthod barnuâr achos.â 16Felly taflodd nhw allan oâr llys. 17Y tu allan iâr llys dyma griw o bobl yn gafael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, aâi guro. Ond doedd Galio ddim fel petaiân poeni dim.
Priscila, Acwila ac Apolos
18Arhosodd Paul yn Corinth am amser hir wedyn. Pan ffarweliodd ââr Cristnogion yno hwyliodd i Syria, ac aeth Priscila ac Acwila gydag e. (Cyn mynd ar y llong yn Cenchrea roedd Paul wedi cadwâr ddefod Iddewig o eillio ei ben fel arwydd o gysegru ei hun yn llwyr i Dduw.) 19Ar Ă´l glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra oedd yno aeth i drafod gydaâr Iddewon yn y synagog. 20Dyma nhwân gofyn iddo aros yn hirach yno, ond gwrthododd. 21Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, âBydda iân dod nĂ´l atoch chi os Duw aâi myn.â Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus, 22a chyrraedd Cesarea. Yna aeth i ymweld ââr eglwys yn Jerwsalem cyn mynd yn ei flaen iâw eglwys gartref yn Antiochia Syria.
Trydedd Daith Genhadol Paul
Apolos yn Effesus a Corinth
23Ar Ă´l aros yn Antiochia am dipyn, aeth i ymweld ââr eglwysi yn ardal Galatia a Phrygia unwaith eto, a chryfhau ffydd y Cristnogion yno.
24Yn y cyfamser, roedd rhyw Iddew oâr enw Apolos wedi mynd i Effesus. Roedd yn dod yn wreiddiol o Alecsandria â dyn galluog, hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd. 25Roedd wedi dysgu am yr Arglwydd Iesu, ac yn siarad yn frwd iawn amdano. Roedd beth roedd eân ei ddysgu am Iesu yn ddigon cywir, ond dim ond bedydd Ioan roedd eân gwybod amdano. 26Roedd yn siarad yn gwbl agored am y pethau yma yn y synagog. Pan glywodd Priscila ac Acwila beth oedd yn ei ddweud, dyma nhw yn ei wahodd iâw cartref ac yn esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl.
27Cododd awydd yn Apolos i fynd i Achaia, ac roedd y credinwyr eraill yn ei gefnogi. Felly dyma nhwân ysgrifennu llythyr at Gristnogion Achaia yn dweud wrthyn nhw am roi croeso iddo. Pan gyrhaeddodd yno roedd yn help mawr iâr rhai oedd, drwy garedigrwydd Duw, wedi dod i gredu. 28Roedd eân gwrthbrofi dadleuon yr Iddewon mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Roedd yn defnyddioâr ysgrifau sanctaidd i ddangos yn glir mai Iesu oedd y Meseia.
Chwazi Kounye ya:
Actau 18: bnet
Pati Souliye
Kopye
Konpare
Pataje
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Š Cymdeithas y Beibl 2023