לוגו של YouVersion
כתבי הקודשתכניותקטעי וידאו
הורד את האפליקציה
בורר שפה
סמל חיפוש

פסוקים פופולריים מ- Nehemeia 9

1

Nehemeia 9:16-17

beibl.net 2015, 2024

bnet

Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig, a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di. Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio’r gwyrthiau roeddet ti wedi’u gwneud yn eu plith nhw. Dyma nhw’n gwrthryfela, a dewis arweinydd i’w harwain nhw yn ôl i’r Aifft. Ond rwyt ti’n Dduw sydd yn maddau, rwyt ti mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw

השווה

חקרו Nehemeia 9:16-17

2

Nehemeia 9:6

beibl.net 2015, 2024

bnet

Ti ydy’r ARGLWYDD, a dim ond ti. Ti wnaeth greu yr awyr, y gofod a’r holl sêr; y ddaear a phopeth sydd arni, a’r moroedd a phopeth sydd ynddynt. Ti sydd yn cynnal y cwbl, ac mae tyrfa’r nefoedd yn plygu o dy flaen di.

השווה

חקרו Nehemeia 9:6

3

Nehemeia 9:19-21

beibl.net 2015, 2024

bnet

Am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch. Roedd y golofn o niwl yn dal i’w harwain yn y dydd, a’r golofn dân yn dal i oleuo’r ffordd iddyn nhw yn y nos. Dyma ti’n rhoi dy ysbryd da i’w dysgu nhw. Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i’w fwyta, a dal i roi dŵr i dorri eu syched. Dyma ti’n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd. Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw’n brin o ddim; wnaeth eu dillad ddim treulio, a’u traed ddim chwyddo.

השווה

חקרו Nehemeia 9:19-21

לפרק הקודם
לפרק הבא
YouVersion

מעודד ומאתגר אתכם לקשר הדוק עם אלוהים בכל יום.

מִשׂרָד

אודות

קריירה

התנדב

בלוג

לחץ

קישורים שימושיים

עזרה

תרום

גרסאות הכתובים

אודיו הכתובים

שפות התנ"ך

הפסוק של היום


משרד דיגיטלי של

Life.Church
עִברִית

©2026 Life.Church / YouVersion

מדיניות פרטיותתנאים
תוכנית לגילוי חולשות אחראי
פייסבוקטוויטראינטגרםיוטיובפינטרסט