Actau’r Apostolion 3

3
A.D. 33. —
1 Pedr, wrth bregethu i’r bobl a ddaethai i weled y cloff a iachawyd, 12 yn proffesu nad trwy ei rym a’i dduwioldeb ef neu Ioan y gwnaethid ef yn iach: ond trwy Dduw, a’i Fab Iesu, a thrwy ffydd yn ei enw ef: 13 gan eu ceryddu hwy hefyd am groeshoelio yr Iesu; 17 yr hwn beth gan iddynt ei wneuthur mewn anwybod, ac wrth hynny gyflawni terfynedig gyngor Duw, a’r ysgrythyrau, 19 y mae efe yn eu hannog hwy, trwy edifeirwch a ffydd, i geisio maddeuant o’u pechodau, a iachawdwriaeth yn yr unrhyw Iesu.
1Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, #Salm 55:17 sef y nawfed. 2A #Pen 14:8rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, #Ioan 9:8i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. 3Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. 4A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. 5Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. 6Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: #Pen 4:10Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. 7A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. 8A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. 9A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. 10Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo. 11Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth #Ioan 10:23; Pen 5:12a elwir Porth Solomon.
12A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio? 13#Pen 5:30Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, #Ioan 17:1a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac #Mat 27:20; Marc 15:11; Luc 23:18; Ioan 18:40; 19:15a’i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd. 14Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog; 15A #3:15 Gwneuthurwr.Thywysog y bywyd a laddasoch, #Pen 2:24yr hwn a gododd Duw o feirw; #Pen 2:32o’r hyn yr ydym ni yn dystion. 16A’i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll. 17Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai #Luc 23:34; Pen 13:27; 1 Cor 2:8; 1 Tim 1:13trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. 18Eithr #Luc 24:44y pethau a ragfynegodd Duw #Esa 50:6; 53:5, &ctrwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.
19 # Pen 2:38 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; 20Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi: 21Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. 22Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, #Deut 18:15, 18, 19; Pen 7:37Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch #3:22 yn ôl pob peth.ym mhob peth a ddyweto wrthych. 23A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. 24A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 25Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, #Gen 12:3; 18:18; 22:18; 26:4Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. 26#Pen 13:46Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, #Ad. 22trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind