Psalmau 100
100
Y C Psalm. vnodl kyrch.
1Cenwch i Dduw cû vnion
Yn llafar oll daear don:
2A llenwch a llawenydh
Iown waith dhydh wsnaethydhion
Dowch yn i wydh hylwydh hynn
A chenwch gainc ach ennyn:
3Gwybydhwch gwelwch ich gwydh
Dhuw yw ’r Arglwydh rh wydh rhodhwyn.
Efo a’n gwnaeth a ’n maeth mad
Nid ein hunain gain gennad:
I bobl ef ydym rym raid
A defaid i wellt dyfiad.
4Yw byrth rhowch dhiolch fyb iawn
Yw enw rhowch fendith vniawn:
Clodforwch molwch ior mau
Yw gyntedhau gynt wiwdhawn.
5Da yw ’r Arglwydh ku-lwydh cad
Tragwydhawl gwiriawl gariad:
Bythoedh llon i wirionedh
Ae drugaredh drwy gariad.
Okuqokiwe okwamanje:
Psalmau 100: SC1595
Qhakambisa
Kopisha
Qhathanisa
Dlulisela
Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.