Yn Arglwydh y sydh o sôn (teyrn oesoedh)
Yn teyrnasu ’n gyfion:
Ag a wiscodh loywfodh lonn,
Hy-lawn ardherchrwydh hoyw-lonn.
Gwiscodh yr Arglwydh gu‐waiscnerth drwssiad,
Idho ’n dryssor prydferth:
Nêrym-wregysodh a nerth,
Da glôd diweir-nôd Dewr-nerth.
Mowr-grwnn fŷd hy-gŷd hoyw-goedh a sic-krai,
Ar swkr-wych golofnoedh:
Di-syfl-wal ffyrf-wal hôff oedh,
Seilfa vn-yd sylfaenoedh.