Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850 (SBY1850)

Cymraeg [Welsh, Galés]

Read Version: Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

Y Testament Newydd Cymraeg Cyntaf 

Yn 1563 pasiwyd deddf yn enw’r Frenhines Elisabeth I, yn gorchymyn esgobion yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a Henffordd i drefnu bod y Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Richard Davies, Esgob Tyddewi, ei gantor Thomas Huet, a William Salesbury a gyflawnodd y gwaith. Ym mhalas yr Esgob yng Nghaerfyrddin y buon nhw wrthi’n cyfieithu’r Testament Newydd, a hynny o’r Roeg. Richard Davies a gyfieithodd Epistol Cyntaf Timotheus, Hebreaid, Iago, ac 1 a 2 Pedr, a Thomas Huet a gyfieithodd Lyfr y Datguddiad. William Salesbury, fodd bynnag, oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith. 

Cymraeg y gogledd yw iaith y cyfieithiad yn bennaf, ond mae ffurfiau Cymraeg amrywiol yn y nodiadau ar ymyl y ddalen. Mae cyflwyniad byr i bob llyfr, ond dim ond o 2 Timotheus ymlaen y mae’r adnodau wedi eu rhifo. Cafodd y Testament Newydd ei argraffu mewn teip Gothig gyda nodiadau ar ymyl y ddalen. Roedd y gyfrol yn cynnwys hefyd ‘Epistol at y Cembru’, sef rhagymadrodd yn Gymraeg gan Richard Davies, a chyflwyniad Saesneg i’r Frenhines Elisabeth gan William Salesbury. Cafodd y Testament Newydd ei gyhoeddi gan Humfrey Toy a’i argraffu yn Llundain gan Henry Denham, ac ymddangosodd o’r wasg ar 7 Hydref 1567. 

Testament Newydd Salesbury oedd y Testament Newydd cyntaf yn y Gymraeg. Yn 1588 cyhoeddwyd cyfieithiad William Morgan o’r Beibl llawn yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Mae ei gyfieithiad o’r Testament Newydd ac o’r Salmau yn seiliedig i raddau helaeth iawn ar waith Salesbury. 

William Salesbury 

Cafodd William Salesbury ei eni yn Llansannan yn sir Ddinbych, yng ngogledd Cymru, ond treuliodd lawer o’i fywyd yn Llanrwst. Astudiodd yn Rhydychen ac roedd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac wedi ei addysgu yn Lladin, Hebraeg a Groeg. Yn 1547 cynhyrchodd y geiriadur Cymraeg-Saesneg cyntaf. Yna yn 1551 Salesbury oedd yn gyfrifol am y cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg i gynnwys cyfran sylweddol o’r Ysgrythurau, sef Kynniver Llith a Ban, a oedd yn gyfieithiad o’r Efengylau a’r Epistolau a oedd i’w darllen yn yr Eglwys ar y Sul ac adeg Gwyliau. Cyfieithodd y Llyfr Gweddi Gyffredin o’r Saesneg ac fe’i cyhoeddwyd, ynghyd â’r Salmau (a gyfieithodd o’r Hebraeg), ar 6 Mai 1567. 

Argraffiad 1850 

Yn 1850 aeth Robert Griffith, llyfrwerthwr o Gaernarfon, ati i gyhoeddi argraffiad newydd o Destament Newydd Salesbury. Fe’i hargraffwyd yng Nghaernarfon gan James Rees, a’r golygydd, yn ôl pob tebyg oedd y clerigwr, Isaac Jones (1804-50) Ceisiwyd cadw’n ffyddlon i’r gwreiddiol, ond diweddarwyd yr orgraff, a’i argraffu mewn ffont fodern i’w wneud yn haws i’w ddarllen. Yn 2017 cafodd y fersiwn hwn ei ddigido gyda chymorth MissionAssist, i ddathlu 450 mlwyddiant Testament Salesbury. Mae rhifau’r adnodau, nad oeddynt yn y rhan fwyaf o’r testun gwreiddiol, wedi eu hychwanegu yn y fersiwn digidol. 

© Cymdeithas y Beibl 2017

First Welsh New Testament 

In 1563 a law was passed in the name of the Tudor Queen Elizabeth I, which instructed the Anglican Bishops in Wales and Hereford to arrange for the Bible and the Book of Common Prayer to be translated into Welsh. The work was accomplished by Richard Davies, Bishop of St David’s, his cantor Thomas Huet, and William Salesbury. They worked at the Bishop’s palace in Abergwili, near Carmarthen where they translated the New Testament from Greek. The First Epistle to Timothy, Hebrews, James, and 1 and 2 Peter were translated by Richard Davies, and Revelation was translated by Thomas Huet. However most of the work was by William Salesbury. 

The language of the translation is mainly northern Welsh, but variant Welsh forms are included in marginal notes. Each book has a short introduction and verse numbers were only included from 2 Timothy. The New Testament was printed in Gothic type with notes down the margins. The volume included an introduction in Welsh addressed to the Welsh people by Richard Davies, and a dedication in English to Queen Elizabeth written by William Salesbury. The New Testament was published by Humfrey Toy and printed in London by Henry Denham, and it appeared from the press on 7th October 1567. 

Salesbury’s New Testament was the first New Testament in Welsh. In 1588 Bishop William Morgan produced the first full Bible in Welsh, and his New Testament and Psalms were largely based upon Salesbury’s work. 

William Salesbury 

William Salesbury was born in Llansannan in Denbighshire, in north Wales, and lived for much of his life in Llanrwst. He studied at Oxford and was fluent in Welsh and English and educated in Latin, Hebrew and Greek. In 1547 he produced the first Welsh-English dictionary. In 1551 Salesbury was responsible for the publication of the first substantial portion of the Scriptures to appear in Welsh, entitled Kynniver llith a ban, which was a translation of the Gospels and Epistles appointed to be read in Church on Sundays and Holy-days. He translated the Book of Common Prayer from English, which was published, together with his translation of the Psalms from Hebrew, on 6th May 1567. 

1850 Edition 

In 1850 Robert Griffith a bookseller in Caernafon published a new edition of Salesbury’s New Testament which was printed in Caernarfon by James Rees and probably edited by the clergyman, Isaac Jones (1804-50). This was faithful to the original but the orthography was updated, and it was printed in a modern font to make it easier to read. In 2017 this edition was digitised with the help of MissionAssist, to mark the 450th anniversary of Salesbury’s New Testament. Verse numbers, which were not in most of the original, have been added to the digital version. 

© British and Foreign Bible Society 2017

Publisher

British & Foreign Bible Society

Other Versions from This Publisher

An Bibel Kernewek 2020An Bíobla Naomhtha 1817 (Bedell)An Sowter 1997Aneityum Gospels 1863Ashiri Aeuitaknup, Iyohaichish, Yona 1897Baiberi Magwaro Matȿene aMŋari 1949 (Doke)Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004Beibl William Morgan - Argraffiad 1955Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959Bibela ea Boitsépho 1890 (Sechuana Tlhaping - Moffatt Bible)Biblija - Pe Baltitko Romani čib (Romanes) 2019Book Hoa Matthew 1816Bullom So Prayer Book Selections 1816Contemporary English Version (Anglicised) 2012Criscote e Majaró Lucas 1872 (Caló)Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)Darby's Translation 1890Detholiad o’r Salmau 1936 (Lewis Valentine)Diɛt ke Dabid 1956Douay-Rheims Challoner Revision 1752Duw ar waith - Y Newyddion da yn ôl Marc 1990E devléskoro sfjato lil e Ísus-Xristóskoro džiipé thai meribé e sfjatoné Lukéstar 1912 (Arlija Balkan Romani - Bulharsko)Ediția Dumitru Cornilescu revizuită 2019Embéo e Majaró Lucas 1837 (Caló)Enjil Yesu 1912 (Nubian Kenuzi Gospels)Fu in Ma-tai 1904Féké Testament 1947Good News BibleGood News Bible (Anglicised)Good News Bible (Catholic edition in Septuagint order)I Ghiléngheri Ghília Salomunéskero an i Rômáni tćib 1875 (Sinte - Italia)Iaai Bible 1901 (New Caledonia)Iesu Keriso imo pai-dubi naiba kitouti dubu nou pai mea 1941Inji’l i Muqaddas 1955Isezerano Risha 1967Iṅǵīl Yesū El-Messīhnilin, Markosin Fāyisīn Nagittā 1885Joannostir Svencono lačopheniben 1933 (Latvia)Juɛl a pwɔdɛn tɛ Mak 1947Jóhannesar Evangelium 1908Kitab Alkudus: Injil Isa Almasih 1866 (Keasberry)Kushti Bokkengro 1985Kushti Lavs (Romany Selections) 1981L' Sâint Évàngile Siévant Sâint Makyu 1863 (Georges Métivier)La Sankta Biblio 1926 (Esperanto Londona Biblio)Lek Jot de Jecu Kritho 1940Lemefeme da Yesu Kristo. Markus 1915 (Bacama)Levr ar Psalmou 1873 (Williams)Lingjili Matthew ki nache 1816Lioar ny Psalmyn 1765 (Pointed)Lis Evangèli 1903 (Provençal)Lu Vanzèli seònd S. Matìe 1860Ma'di Book of Ruth 1938MakrMark añgw’a téndé 1938Marku mau sau 1951; ZaiwaMattheo 1911 (Evangelho de S. Mattheus - XiPuthshu)Methelokên Hezretê Silêman 1947Ne Saint John 1804Ne Saint Mark 1774Noo Ean 1936Noo Mian 1748O Devlikano lil e Sumnale Lukahtar 1936 (Bosnia)O Evangelio Jezus Kristusester pala Markus 1912 (Sinte)O keriben pal e Devleskre bičhade 1936 (Morava)Ootech oochu Takeh niya-Tinkles St. Mark 1886Pened balid Yoliánesà 1888Predigimo ä Johannesko 1930Psalms of David in Metre 1650 (Scottish Psalter)Psalmyn Ghavid 1761 (Metrical)Revised Version 1885Revised Version with Apocrypha 1885, 1895Rut, la Cantica di li Cantici, e Matteu 1861 (volgarizzato in dialetto siciliano)Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)Salmau Dafydd Broffwyd 1603 (Edward Kyffin)Segala Surat Perdjanjian Baharu Maha Besar Tuhan Jesus Christos 1877Sherbro Parables in Matthew and Luke 1839St Paul from the Trenches 1916Tandu tani adea ngoro ta tišile Marako tini. Tandu tani adea ngoro ta tišile Matayo tini.Te Paipera Tapu 1952Testamant Nevez 1897 (Jenkins)Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850Testament Newydd a'r Salmau Salesbury 1567Testament ke Siki 1960 (Kabba Laka)The Drom 1995Tolomaku Portions 1909Uet-Apuaté Etong Luka 1905Vangheilu al Matheu 1889Wel puat̤ ci Mak ke gor 1916Wester Boswell Scripture Selections 1874Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971Yn Apocrypha (Broderick) 1979Yn Apocrypha 1772Yn Conaant Noa 1810Yn Vible Casherick 1819Young's Literal Translation 1898Zabúr 1863 (Roman Urdū)Évangile de Saint Matthieu 1855 (de Sacy)Библия - Пэ Балтитко Романи чиб (Романэс) 2019Библия Думитру Корнилеску 1924Біблія в пер. Івана Огієнка, 1962ꓟ˗ꓘꓳ ꓕꓰ˗ꓷ 1932

Available Versions

Total Versions:2,437
Total Languages:1,678

Make it your Bible

Highlight or Bookmark your favorite verses, make Verse Images that you can share, and attach public or private Notes to Bible passages.

Create Your Free Account

Free Reading Plans and Devotionals

Bible Plans help you engage with God's Word every day, a little at a time.

Browse All Plans

Download the Free Bible App

Tens of millions of people are using the Bible App™ to make God's Word a part of their daily lives. Download the free app and access your bookmarks, notes, and reading plans from anywhere. Enjoy hundreds of versions, including audio, all on your mobile device.