1
Genesis 3:6
beibl.net 2015, 2024
bnet
Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd.
موازنہ
تلاش Genesis 3:6
2
Genesis 3:1
Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi’u creu. A dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?”
تلاش Genesis 3:1
3
Genesis 3:15
Byddi di a’r wraig yn elynion. Bydd dy had di a’i had hi bob amser yn elynion. Bydd e’n sathru dy ben di, a byddi di’n taro ei sawdl e.”
تلاش Genesis 3:15
4
Genesis 3:16
Yna dyma fe’n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi’n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.”
تلاش Genesis 3:16
5
Genesis 3:19
Bydd rhaid i ti weithio’n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i’r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.”
تلاش Genesis 3:19
6
Genesis 3:17
Wedyn dyma fe’n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae’r ddaear wedi’i melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio’n galed i gael bwyd bob amser.
تلاش Genesis 3:17
7
Genesis 3:11
“Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di’n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”
تلاش Genesis 3:11
8
Genesis 3:24
Pan gafodd y dyn ei daflu allan o’r ardd, gosododd Duw gerwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo, i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy’n rhoi bywyd.
تلاش Genesis 3:24
9
Genesis 3:20
Dyma’r dyn yn rhoi’r enw Efa i’w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.
تلاش Genesis 3:20
صفحہ اول
بائبل
مطالعاتی منصوبہ
Videos