Y Salmau 120
120
SALM CXX
Ad Dominum.
Dafydd wedi dyfod o fysg yr Arabiaid yn cwyno hyd y bu efe ymysg y genhedlaeth enwir anghredadwy honno.
1I’m ing y gelwais ar f’Arglwydd,
ac ef yn rhwydd a’m clybu.
2Duw gwared fi rhag tafod gau,
a genau yn bradychu.
3Dywaid i mi oes les neu fael,
iw gael, oh dafod distryw?
4Geiriau fel llymion saethau cawr,
ynghyd a marwawr meryw.
5Gwae fi aros honof yn llech,
ynghyd â Mesech dwyllgar:
A chyfanneddu a’m gwersyll,
yn nrhowsion bebyll Cedar.
6Hir y bu f’enaid i sut hon
ymysg caseion hedwch.
7Os son am lonydd a wnawn i,
rhyfelai rhei’ni’n ’rhyff lwch.
Поточний вибір:
Y Salmau 120: SC
Позначайте
Копіювати
Порівняти
Поділитись
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017