Y Salmau 115
115
SALM CXV
Non nobit Domine.
Y bobl a orthrymid gan dywysogion annuwiol, yn addo bod yn ddiolchgar, os Duw a wrandawai ei gweddiau, ac a i gwaredai hwynt.
1Nid i ni Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd,
Ond i’th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a’th wiredd.
2Pa’m y dwedant am danat ti
y cenedlaethi estron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple’y mae’u Duw hwy yr awron?
3Sef ein Duw ni mae yn y nef,
lle y gwnaeth ef a fynnodd.
4Eu delwau hwy, aur, arian yn’,
a dwylo dyn a’i lluniodd.
5Safn heb draethu: llun lygaid glân,
y rhai’n ni welan ronyn:
6Trwyn heb arogl, clustiau ar lled
heb glywed, y sydd ganthyn.
7Ac i bob delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symyd:
Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,
fal dyna ddyfais ynfyd.
8Fel hwyntwy ydyw’ rhai a’i gwnant,
a’r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwy gred
roi mo’i ymddiried arnynt.
9O Israel, dod ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd,
Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,
eu porth a’i tarian hefyd.
10O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,
eu porth a’i tarian hefyd.
11Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,
rhowch arno’ch union hollfryd.
Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,
eich porth a’ch tarian hefyd.
12Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plith
fo roes ei fendith rhadlon:
I dy Israel rhydd ei hedd,
ac unwedd i dy Aaron.
13Sawl a’i hofnant bendithiant ef,
yr Arglwydd nef canmolan:
A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,
bendithied mawr a bychan:
14Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach.
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.
15Y mae ywch fendith a mawr lwydd,
gan y gwir Arglwydd cyfiawn,
Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,
ar ddayar obry yn gyflawn.
16Y nef, ie’r nefoedd uwchlaw,
sy yn eiddaw Duw yr Ion:
Ar ddaiar, lle y preswyliant,
a roes ef i blant dynion.
17Pwy a folant yr Arglwydd? Pwy?
gwn nad hwyntwy y meirwon,
Na’r rhai a ânt i’r bedd yn rhwydd,
lle y mae distawrwydd ddigon.
18Ond nyni daliwn yn ein cof
fyth fyth fendithio’r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd yn un wedd,
a mawl gyfannedd ebrwydd.
Поточний вибір:
Y Salmau 115: SC
Позначайте
Копіювати
Порівняти
Поділитись
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017