Logoja YouVersion
Ikona e kërkimit

Salmydd 6

6
SALM VI.
M. C. Bangor. St. Mary.
1Na chosba, Arglwydd, yn dy lid
2Greadur llesg a brau;
3Trallodus wyf, O! Dduw, pa hyd
Y byddi heb drugarhau?
4Iacha fi o’th ras, a’m dyddiau rof
I’th foli Di’n ddidawl;
5Am Dduw yn angau nid oes cof.
Pwy yn y bedd a’th fawl?
6Diffygiais gan fy ochain prudd,
Mewn dagrau yn ymdroi;
Fy ngwely’u foddfa, 7a’r irder sydd
O’m llygad wedi ffoi.
8-9Ciliwch o’m gwydd annuwiol rai,
Can’s Duw a glybu’m llef;
Arbedir fi er maint fy mai,
Trugarog iawn yw Ef.

Aktualisht i përzgjedhur:

Salmydd 6: SC1885

Thekso

Ndaje

Kopjo

None

A doni që theksimet tuaja të jenë të ruajtura në të gjitha pajisjet që keni? Regjistrohu ose hyr