Logoja YouVersion
Ikona e kërkimit

Salmydd 5

5
SALM V.
M. H. Angel’s Hymn. Melcombe.
1Erglyw fy ngweddi, Arglwydd da,
2Fy Nuw, fy Mrenin, trugarha:
3Yn foreu mi ddyrchafa’m llef
Ac a edrychaf tua’r nef.
4Nid ydwyt Dduw i oddef drwg,
A phwy a saif o flaen dy ŵg?
5* Yr uchel yn dy ŵydd ni thrig,
6Dyfethi’r anwir yn dy ddig.
7A miunau, Arglwydd, dof i’th dŷ
Yn amlder dy drugaredd gu;
Mewn ofn parchedig deuaf dan
Addoli tua’th sanctaidd fan.
8Yn dy gyfawnder arwain ti.
A dysg im’ rodio’th lwybrau Di,
9Can’s fy ngelynion bob yr awr
Sy’n ceisio am fy mhen i lawr.
10Pan gwympir hwynt i ddistryw ’nghyd,
11Y sawl a’th garo gwyn ei fyd;
Yn llafar cân, 12tra ffafr y nef
Fel tarian a’i cysgoda ef.

Aktualisht i përzgjedhur:

Salmydd 5: SC1885

Thekso

Ndaje

Kopjo

None

A doni që theksimet tuaja të jenë të ruajtura në të gjitha pajisjet që keni? Regjistrohu ose hyr