Genesis 18

18
Duw yn addo mab i Abraham a Sara
1Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i’w babell. 2Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o’u blaenau. 3“Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Byddai’n fraint i’ch gwahodd chi i aros yma am ychydig. 4Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma. 5Af i nôl ychydig o fwyd i’ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae’n bleser gen i eich bod wedi dod heibio cartre’ch gwas.” A dyma nhw’n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”
6Brysiodd Abraham i mewn i’r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid#18:6 Hebraeg, “tri seah”. o flawd mân i wneud bara.” 7Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i’w was i’w baratoi ar frys. 8Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a’r cig wedi’i rostio a’u gosod o’u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra oedden nhw’n bwyta.
9“Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. 10A dyma un ohonyn nhw’n dweud, “Dw i’n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. 11(Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) 12Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi’n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i’n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae fy meistr#18:12 h.y. Abraham yn hen ddyn hefyd.” 13A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i’n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ 14Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i’n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara’n cael mab.” 15Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi’n ceisio gwadu’r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai’r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
Abraham yn pledio ar ran Sodom
16Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw’n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o’r ffordd. 17A dyma’r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i’n mynd i’w wneud oddi wrth Abraham? 18Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwyddo. 19Na, dw i’n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a phawb sydd gydag e i fyw fel mae’r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â’r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”
20Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw’n gwneud pethau drwg iawn! 21Dw i am fynd i lawr i weld a ydy’r cwbl sy’n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i’n gwybod wedyn.”
22Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra oedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 23Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â’r bobl dda gyda’r bobl ddrwg, fyddet ti? 24Beth petai pum deg o bobl yno sy’n byw yn iawn? Fyddet ti’n dinistrio’r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna? 25Alla i ddim credu y byddet ti’n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a’r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy’n iawn?” 26A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i’n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i’n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”
27Yna gofynnodd Abraham, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr – a dw i’n gwybod nad ydw i’n neb#18:27 Hebraeg, “llwch a lludw ydw i”.28beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti’n dinistrio’r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim dinistrio’r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”
29A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”
30Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”
31“Dw i’n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”
32A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”
33Ar ôl iddo orffen siarad ag Abraham dyma’r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Genesis 18: bnet

සළකුණු කරන්න

බෙදාගන්න

සසඳන්න

පිටපත් කරන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න