1
Rhufeiniaid 12:2
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Porównaj
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:2
2
Rhufeiniaid 12:1
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:1
3
Rhufeiniaid 12:12
Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:12
4
Rhufeiniaid 12:21
Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:21
5
Rhufeiniaid 12:10
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:10
6
Rhufeiniaid 12:9
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:9
7
Rhufeiniaid 12:18
Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:18
8
Rhufeiniaid 12:19
Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:19
9
Rhufeiniaid 12:11
Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:11
10
Rhufeiniaid 12:3
Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:3
11
Rhufeiniaid 12:17
Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:17
12
Rhufeiniaid 12:16
Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:16
13
Rhufeiniaid 12:20
Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:20
14
Rhufeiniaid 12:14-15
Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:14-15
15
Rhufeiniaid 12:13
Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:13
16
Rhufeiniaid 12:4-5
Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.
Przeglądaj Rhufeiniaid 12:4-5