Lyfr y Psalmau 34

34
1Bendithiaf Arglwydd nef,
Yn wastad Ef a folaf;
Ni phaid fy ngenau tra bwyf byw
A moli Duw Goruchaf.
2Yr wyf yn Nuw a’i ddawn
Yn llawen iawn a hyfryd;
Yr isel clywed hyn a wnant,
A llonnant hwythau hefyd.
3Mawrygwch gyd â mi
Yr Arglwydd Rhi trugarog;
A chyd‐ddyrchafwn yma ’n awr
Ei Enw mawr ardderchog.
YR AIL RAN
4Mi geisiais Arglwydd nef,
Fe glybu ’m llef yn erfyn;
Gwaredodd f’ enaid gwan mewn pryd
O’i ofn i gyd a’i ddychryn.
5Eu llygaid at Dduw fry
O’u dunos obry troisant;
O’u cylch disgleiriai gwawl o’r nen,
Dim gwarth na sen ni chawsant.
6Fe lefodd y tlawd hwn
O dan ei bwn a’i benyd;
Fe ’i clybu Duw, i’w dynnu daeth
O’i gyni caeth a’i adfyd,
7O amgylch pawb sy ’n byw
Dan ofni Duw eu nodded,
Ei Angel Ef sy ’n gaer a thŵr
A gorau gwr i’w gwared.
8O profwch, gwelwch oll,
Mor ddigoll dda yw ’r Arglwydd;
A roddo ’i hyder arno ’n hy,
Oh dyna ’r dyn sy ddedwydd!
9Chwi sanctaidd blant Duw nef,
Arswydwch Ef a’i Enw;
Y neb sy ’n iawn yn ofni Ner
Ni bydd mewn prinder hwnnw.
10Mae ’r llewod er eu grym
Mewn newyn llym a chyni;
Ond ni bydd ar a geisio ’r Ner
Byth brinder dim daioni.
Y DRYDEDD RAN
11O deuwch, blant, gwrandêwch,
I’m hysgol de’wch yn hyrwydd;
Dysgaf i chwi ddoethineb ddofn,
Gwybodaeth ofn yr Arglwydd.
12Pa le mae’r gwr, pwy yw,
Sy ’n chwennych byw ac oesi?
Pwy gâr hir ddyddiau yn y tir
I weled hir ddaioni?
13O cadw ’r tafod tau
Rhag geiriau gau anwiredd;
Poed dôr dy wefus dan glo pwyll
Rhag traethu twyll na ffalsedd.
14Rhag drwg encilia draw,
A gwna ’n ddi‐fraw ddaioni;
A chais Dangnefedd yn dy ddydd,
Bydd beunydd yn ei chwmni.
Y BEDWAREDD RAN
15Mae llygaid tawel Duw
Ar bawb sy ’n byw yn gyfiawn;
Agored yw ei glustiau Ef
I wrando llef yr uniawn.
16Mae wyneb Duw mewn gwg
Ar bawb sy ’n ddrwg eu rhodiad;
I dorri eu coffa cas cyn hir
Yn llwyr o dir eu trigiad.
17Y cyfiawn dyrcha ’i lef,
A Duw o’r nef yn gwrando;
Fe ’i gweryd yn ei ras mewn pryd
O’i boen i gyd, pan lefo.
18Un agos yw ein Ion
At friwiau ’r galon glwyfus;
Rhoir balm a chordial gan Dduw Naf
I’r yspryd claf dolurus.
Y BUMMED RAN
19Trallodau mynych iawn
A ddaw i’r cyfiawn galon;
Ond Duw a’i gweryd yn ddi‐goll
Oddi wrth ei holl helbulon:
20Mae llygaid Arglwydd nef
Fyth arno ef yn dadol;
Ac ni chaiff un o’i esgyrn friw,
Fe ’u ceidw Duw hwy ’n fanol.
21Rhyw ddrwg a melldith fawr
A dyr i lawr yr anwir;
A’r rhai gasânt yr union rai,
Hwynt am eu bai a ddemnir.
22Drwy farn yr Arglwydd Ion
Ei weision a waredir;
Y sawl bo ’i hyder ar Dduw Rhi,
Byth bythoedd ni chondemnir.

Markering

Kopiëren

Vergelijk

Delen

None

Wil je jouw markerkingen op al je apparaten opslaan? Meld je aan of log in