YouVersion လိုဂို
ရွာရန္ အိုင္ကြန္

Ioan 21:1-14

Ioan 21:1-14 DAFIS

Wedi 'na dangosodd Iesu i unan 'to i'r disgiblion wrth Lyn Tiberias. Fel hyn ddangosodd e i unan. We Simon Pedr, Tomos (un o'r Twins), Nathanael o Cana in Galilea, crwts Sebedeus a dou ddisgibil arall 'da'i gily. Gwedo Simon Pedr, “Dw i'n mynd i bisgota.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Ŷn ni'b dod 'da ti.” Ethon nhwy mas a mynd miwn i'r cwhc, a'r nosweth 'ny ddalon nhwy ddim byd. Fel wedd i'n gwawrio 'na lle we Iesu ar i lan, ond weno'r disgiblon in stando taw fe wedd e. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Bois, wes pisgod 'da chi, 'te?” Atebon nhwy, “Na wes.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Towlwch i rhwyd ar ochor dde'r cwch, a fe gewch chi rei.” So dowlon nhwy'r rhwydi, a wen nhwy'n ffaelu'u tinnu nhwy nôl miwn i'r cwch achos we gwmint o bisgod indo nhwy. Gwedo'r disgibl we Iesu in i garu wrth Pedr, “Ir Arglwidd yw e.” Pan gliwo Pedr taw'r Arglwidd wedd e, tinodd e i glogyn amdano, achos wedd e wedi'i dinnu e bant, a jwmpo miwn i'r dŵr; ond dâth i disgiblion erill in u cwch in drago'u rhwydi llawn pisgod, achos wenyn nhwy'n bell o'r tir, dim ond rhyw dou gant ciwbit. Pan ddethon nhwy i'r lan gwelon nhwy tân cols a pisgod arno, a bara. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch â rhei o'r pisgod ichi newy ddala.” Âth Simon Pedr nôl i'r cwch a drago'r rhwyd llawn pisgod mawr i'r tir. We hyndred an ffifi thrî onyn nhwy; ond er bo gwmint nâth i rhwyd ddim torri. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch i gâl brecwast.” We ddim un o'r disgiblion in mentro gofyn iddo, “Pwy wit ti?” achos bo nhwy'n gwbod taw'r Arglwidd wedd e. Dâth Iesu, cwmrid i bara a'i roi fe iddyn nhwy, a nâth e'r un peth da'r pisgod. Co'r trididd gwaith i Iesu ddangos i unan i'r disgiblion wedi 'ddo godi o farw.

Ioan 21:3 အေၾကာင္း ဗီဒီယိုမ်ား