Luc 7:21-22
Luc 7:21-22 FFN
Roedd yr Iesu ar y pryd yn iacháu llawer oddi wrth glefydau, anhwylderau ac ysbrydion drwg, ac yn adfer eu golwg i lawer o’r deillion. Atebiad yr Iesu iddyn nhw oedd: “Ewch a dywedwch wrth Ioan beth a welsoch ac a glywsoch; mae’r deillion yn gweld; y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu gwella, y rhai byddar yn clywed, y meirw’n dod yn fyw, y tlodion yn cael clywed y Newyddion Da.