Pan wên‐nhwy'n dwâd in agos at Jeriwsalem, ing golwg Bethffage a Bethania, ar bwys Mini'r Llwyn‐Oil, halodd Iesu dou o'i ddisgiblion bant 'da'r ordors ma: “Cerwch miwn i'r pentre sy goddereb â chi, a wrth ichi fynd miwn welwch chi ebol wedi'i glwmu'n sownd fan‐'ny, ebol sneb wedi bod ar i gewn e ariôd o'r blân. Tinnwch e'n rhydd a dewch ag e ma; a os wedith riwun wrthoch chi, ‘Pam ŷch‐chi'n neud hyn?’, gwedwch nôl wrthon nhwy, ‘Ma'i ishe fe ar ir un sy pia g'e; halith‐e fe nôl 'ma in i fan fach.’ ” Ethon‐nhwy bant a ffeindo'r ebol wedi'i glwmu ar bwys rhiw ddrws, mas ar ir hewl. Wrth iddon nhwy dynnu fe'n rhydd wedodd rhei dinion we'n sefyll fan‐'ny wrthon nhwy, “Be chi'n neud in tinnu'r ebol 'na'n rhydd?” Atebon‐nhwy jwst fel we Iesu wedi gweu‐'thon nhwy neud, a gado'r dinion nhwy neud 'ny. Dethon‐nhwy â'r ebol at Iesu a fe dowlon‐nhwy u cote ar i gewn e, a ishteddodd Iesu ar i gewn e. We lot o ddinion wedi towlu'u cote ar ir hewl, a we rhei erill wedi rhoi dail wen‐nhwy wedi torri in i perci ar ir hewl. We'r rhei we'n mynd o'i flân e, a'r rhei we'n mynd ar i ôl e, in gweiddi'n uchel,
“Hosanna! Duw, achub i bobl!
Bendith Duw ar i dyn sy'n dwâd in enw'r Arglwi.
Bendith Duw ar Deyrnas in Tad ni Dafydd,
i deyrnas sy jyst â dwâd.
Hosanna! Duw, safia'r bobl o di nefodd uchel!”
Âth Iesu i Jeriwsalem a miwn i'r Demel. Drichodd e rownd ar bopeth we in i Demel, ond achos wedd‐i'n ddiweddar fe âth‐e mas i Bethania gida'r Douddeg.