Actau 20
20
Paul yn myned i Macedonia.
1Ac ar ol darfod o'r cythrwfl, Paul, wedi#20:1 wedi danfon am א BE Brnd. ond La. Al.; wedi galw am A D H L La. Al. danfon am y dysgyblion, a'u cynghori#20:1 cynghori A B (א D) Brnd.; a'u cynghori lawer D.; gad. H L. a'u cofleidio#20:1 neu, a ganodd yn iach, a ffarweliodd. Nid y cythrwfl oedd achos ei ymadawiad. Yr oedd o'r blaen wedi bwriadu myned trwy Macedonia ac Achaia, 19:21, 22 a pheidio aros yn Ephesus ar ol y Pentecost, 1 Cor 16:8, a ymadawodd#20:1 llyth: a aeth allan. i fyned i Macedonia. 2Ac wedi iddo fyned trwy y parthau hyny, a'u cynghori#20:2 Neu, calonogi, sef y Cristionogion yn Macedonia. â llawer gair, efe a ddaeth i Groeg#20:2 sef Achaia, yr hon, yn ol y dosraniad Rhufeinig, a gynwysai yr oll i'r deheu o Macedonia. Ar y daith hon trwy Macedonia yr ysgrifenodd Paul ei Ail Epistol at y Corinthiaid. Gweler prawf o hyn yn 2 Cor 7:6; 8:1, 2, 18–22; 13:1. Cymer yr adnod hon i fyny tua naw mis, o hâf 57 hyd wanwyn 58. Yma yn unig yn y T.N. yr enwir Hellas, Groeg.. 3Ac wedi iddo dreulio tri mis#20:3 Yn debygol yn Corinth o'r hon y gallai gychwyn yn rhwydd i Syria. Addawodd auafu yno (1 Cor 16:6); ac yma yr ysgrifenodd ei Epistol at y Rhufeiniaid. Cymharer Rhuf 15 a 16 â'r hanes a roddir yma., ac i gynllwyn gael ei wneyd gan yr Iuddewon yn ei erbyn pan ar fedr morio i Syria, daeth i'r penderfyniad#20:3 llyth: barn, yna, amcan, penderfyniad. Tebygol i'r Iuddewon wylied porthladd Cenchrea, i'r dyben o'i ddal a'i ladd. i ddychwelyd trwy Macedonia. 4A chydymdeithodd ag ef#20:4 hyd yn Asia, A D E L La. [Tr.] Diw.; gad. א B Ti. WH. [hyd yn Asia], Sopater o Berea, mab#20:4 mab Pyrrhus א A B D Brnd.; gad. H L. Pyrrhus; ac o'r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe a Thimotheus; ac o Asia, Tychicus a Trophimus#20:4 Efallai mai yr un oedd Sopater a Sosipater, câr Paul (Rhuf 16:21); eraill a farnant fod ‘mab Pyrrhus’ wedi ei ychwanegu er gwahaniaethu y ddau. Am Berea, gweler 17:10; Aristarchus a Gaius, 19:29; Timotheus, 16:1. Aeth Tychicus gyda'r Apostol i Rufain, ac efe oedd cludydd yr Epistolau at yr Ephesiaid a'r Colossiaid (Eph 6:21; Col 4:7). Yr oedd Trophimus yn enedigol o Ephesus (21:29). Gweler hefyd 2 Tim 4:20. Ni enwir Secundus ond yma.. 5A'r rhai hyn wedi#20:5 wedi cyrhaedd [dyfod, proselthontes] א B E L Tr. WH.; wedi myned o'r blaen B3 D La. Ti. Diw. cyrhaedd yno a arosasant am danom#20:5 Y mae Luc eto wedi dyfod yn gydymaith i Paul. Ymddengys iddo aros ar ol yn Philippi ar adeg yr ymweliad cyntaf a Macedonia (16:16). Arferiad Paul oedd gadael rhai o'i gyd‐lafurwyr i ofalu am y ‘planigion,’ er eu dyfrhau, megys Silas a Thimotheus yn Berea (17:14), Priscilla ac Acwila yn Ephesus (18:19), Titus yn Creta (Titus 1:5), Erastus yn Corinth (2 Tim 4:20). Arferiad arall yr Apostol oedd ail‐ymweled a'r eglwysi a blanodd; felly yma. Nid yw Luc yn enwi ei hun. Y mae moesgarwch a gostyngeiddrwydd ysgrifenwyr y T.N. yn ddihafal. yn Troas#20:5 am Troas, gweler 16:8.. 6A ni a fordwyasom ymaith ar ol dyddiau y Bara Croyw#20:6 Yr oedd y Bara Croyw erbyn hyn wedi troi yn Basc Cristionogol. Ymadawodd o Philippi tua Ebrill 4, B.H. 58. o Philippi, ac a ddaethom atynt i Troas yn mhen pum#20:6 Aethant mewn dau ddiwrnod (16:11) o Troas i Neapolis, porthladd Philippi. niwrnod, lle y treuliasom saith#20:6 Cawn dair enghraifft o Paul yn aros mewn lle saith niwrnod, yma, 21:4; 28:14. Diameu fod y Sabbath Cristionogol i raddau yn cyfrif am hyn. niwrnod.
Swper yr Arglwydd yn Troas: Damwain angeuol ac adferiad gwyrthiol.
7Ac ar y Dydd Cyntaf#20:7 Dydd Adgyfodiad Crist, dydd ei ymweliad neillduol a'i Ddysgyblion, dydd appwyntiedig rhoddion crefyddol (1 Cor 16:2), ‘Dydd yr Arglwydd’ (Dad 1:10). o'r wythnos, a ninau#20:7 ninau א A B D E Brnd.; y dysgyblion H L. wedi ymgynull ynghyd i Dori Bara#20:7 Sef, i gadw Swper yr Arglwydd, yr hon a sefydlwyd yn yr hwyr; torodd Crist fara gyda'r ddau ddysgybl yn Emmaus, ‘a hi yn hwyrhâu’ (Luc 24:29, 30)., ymresymai Paul â hwynt, ar fedr myned ymaith dranoeth, ac a barhâodd#20:7 Neu, estynodd. Y mae calon lawn yn ffrydio allan mewn pregeth hir. Gwell i Eutychus gyfarfod a damwain na chwtogi'r gwirionedd. Y mae bywyd a bwyd eneidiau yn fwy pwysig na bywyd y corff. ei ymadrodd hyd haner nos. 8Ac yr oedd llawer o oleuadau#20:8 Yr oedd yr olygfa yn fyw yn meddwl yr hanesydd. Ni enwir y goleu i ddangos fod y gweithrediadau uwchlaw amheuaeth, &c. yn yr oruwch‐ystafell, lle yr oeddem#20:8 oeddem א A B D E Brnd.; oeddent, neb o'r llaw. ysg. prif‐lythyrenol. wedi ymgynull ynghyd. 9A rhyw wr ieuangc o'r enw Eutychus oedd yn eistedd yn y ffenestr#20:9 h.y. ar sedd y ffenestr, i'r hon nid ydoedd gwydr, nac unrhyw beth cyffelyb. Yr oedd y ffenestri yn fynych yn hollol agored o herwydd poethder yr hin, &c. Weithiau yr oedd iddynt ddrysau o ddellt. Syrthiodd Ahaziah drwy un o'r cyfryw (2 Br 1:2)., yn cael ei lethu#20:9 llyth: yn cael ei ddwyn i lawr, gan ddynodi graddol syrthio i gwsg, tra y dynoda amser y ferf pan y defnyddir hi yr ail waith ei fod wedi ei hollol orchfygu gan y cwsg. gan drwm‐gwsg; ac fel yr oedd Paul yn ymresymu yn helaethach, efe, wedi ei lethu gan y cwsg, a syrthiodd o'r drydedd loft, ac a godwyd i fyny yn farw#20:9 Nid fel marw, ond yr oedd bywyd wedi dianc.. 10A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd#20:10 fel y gwnaeth Elias ac Eliseus (1 Br 18:21; 2 Br 4:34). Ni wnaeth Crist unrhyw ddefnydd o'r fath weithred. arno ef, a chan ei gofleidio a ddywedodd, Na therfysgwch#20:10 neu, Na chyffroed arnoch; gwaherddir cythrwfl a chyffrawd gormodol yn y materion pwysicaf. (Ex 14:13; 1 Br 6:7; Es 8:6). Adeiladwyd y deml heb swn i'w glywed. Yr oedd y bobl i fod yn dawel yn amser rhyfel., canys y mae ei fywyd ynddo. 11Ac wedi iddo fyned i fyny, a thori y Bara#20:11 sef Bara y Swper. Yr oedd yn arferiad yn yr eglwys foreuol i'r frawdoliaeth, ar ol cyfranogi o'r Bara a'r Gwin, i fwyta pryd y Cariad — Wledd (Agapê)., a bwyta, ac ymddyddan#20:11 Ymddyddan fel cyfaill a brawd. Gwelwn ei zel, ei yni, ei ymdrech ddiflino, ei gariad diguro yn yr adroddiad byw o eiddo Luc. am hir amser, hyd doriad dydd, felly yr ymadawodd. 12A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr#20:12 llyth: nid yn gymedrol..
Ar droed i Assos: dros y môr i Miletus.
13A nyni#20:13 wedi cyrhaedd [prosel:] A B E Tr. WH.; wedi myned yn mlaen at [proel:] א Ti. Al. Diw. wedi cyrhaedd hyd at y llong, a hwyliasom i Assos#20:13 tref yn Mysia, gyferbyn a Lesbos, a saith milltir oddiwrthi, a 24 o Troas. Nid oedd Paul gyda'r teithwyr hyn ar y pryd hwn., ar fedr yno cymeryd Paul i mewn#20:13 llyth: i fyny (i'r llong).; canys felly yr oedd efe wedi trefnu pan ar fedr myned ei hun ar draed#20:13 Yr oedd pen a thraed a chalon yn ddiwyd yn ngwasanaeth Crist. Fel ei Feistr gwnaeth ‘rodio oddiamgylch gan wneuthur daioni.’. 14A phan gyfarfu efe a ni yn Assos, ni a'i cymerasom ef i mewn#20:14 llyth: i fyny (i'r llong)., ac a ddaethom i Mitylene#20:14 prif dref Lesbos, yn gymharol mewn prydferthwch i Corinth ac Ephesus. Yr oedd ar yr ochr ddwyreiniol. Y mae erbyn hyn wedi rhoddi ei henw i'r holl ynys.. 15Ac wedi mordwyo oddiyno, dranoeth ni a ddaethom gyferbyn a Chios#20:15 Ynys brydferth a ffrwythlon, rhwng Lesbos a Samos, heb fod yn mhell o diriogaeth Asia Leiaf. Ei henw yn awr yw Scio.; ac ar y dydd arall#20:15 sef, y trydydd dydd, tradwy … … canlynol, llyth: dyfodol. ni a wthiasom yn groes#20:15 Neu, heibio, ‘ni a agosasom,’ ‘a gyffyrddasom.’ i Samos#20:15 Ynys yn yr Archipelago, i'r de‐orllewin o Ephesus, lle genedigol Pythagoras. Yr oedd 50 milltir i'r deheu o Chios. Yr oedd Trogyllium yn le amlwg ar lan y Môr yn Asia gyferbyn a Samos.#20:15 ac a arosasom yn Trogyllium D H L. gad. א A B C Brnd.; a'r dydd canlynol ni a ddaethom i Miletus#20:15 Yr oedd yn Ionia ar dueddau Caria, 30 milltir o Ephesus; yr oedd un amser yn brif dref fasnachol Asia Leiaf; yn enwog fel lle genedigol Thales.: 16canys yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia; canys brysiai, os oedd bosibl iddo, i fod yn Jerusalem Ddydd y Pentecost#20:16 erbyn hyn yr oedd Pentecost Cristionogol yn cael ei gadw yn Jerusalem yn ogystal ag un Iuddewig. Hefyd byddai yno dyrfaoedd lawer o amrywiol wledydd, a chawsai, felly, gyfleusderau rhagorol i bregethu yr Efengyl..
Paul a Henuriaid Ephesus yn Miletus, 17–38.
17Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd ato#20:17 Yr oedd Paul ar ymadael ag Asia. Yr oedd yn myned i Jerusalem, lle oedd mor beryglus ag oedd yn bwysig. Yr oedd wedi gosod ei fryd i wynebu ar y gorllewin, a chyrhaedd Rhufain ei hun. Felly yr oedd anghen siars pwysig ar Eglwys Ephesus, a thrwyddi hi ar yr holl eglwysi eraill cyfagos. Henuriaid#20:17 Yr Henuriaid oedd y swyddogion a ordeiniwyd i lywyddu yn nghynulliadau y Cristionogion yn eu heglwysi (11:30; 14:23; 15:2, 4, 6, 22; 16:4, &c.). Yr un oedd yr Henuriad (presbuteros), â'r arolygwr, ‘yr esgob,’ (episkopos), oblegyd geilw Paul Henuriaid Ephesus wrth y ddau enw (20:17, 28). Dengys y blaenaf eu safle a'r olaf eu gwaith. Daeth ‘yr Henuriad’ o sefydliadau Iuddewig, a'r ‘Arolygwr’ o sefydliadau Groegaidd. yr eglwys#20:17 Nid oes sail dros ddywedyd fod y gair ‘eglwys’ yma yn golygu eglwysi tiriogaeth neu dalaeth gyfan. Ni ddefnyddir y gair yn yr ystyr hyn o gwbl yn y T.N. Yr oedd cenadwri Paul i'r holl eglwysi, ond llefarwyd hi wrth Henuriaid Eglwys Ephesus. Nid oes lle i gredu fod eglwys mewn bodolaeth yn Miletus ar y pryd hwn.. 18A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt#20:18 Hwn yw yr unig anerchiad a groniclir yn yr Actau a draddodwyd gan Paul i gynulliad o Gristionogion. Y mae delw Paul arno fel yn yr Epistolau., Chwi a wyddoch o'r dydd cyntaf y gosodais droed yn Asia, pa fodd y bum gyda chwi yr holl amser; 19gan wasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd#20:19 Hoff‐air gan Paul. Defnyddir ef ganddo bum gwaith (Eph 4:2; Phil 2:3; Col 2:18, 23; 3:12). Nid oedd ond peth dirmygus yn ngolwg yr athronydd paganaidd., a dagrau#20:19 Yr oedd tywallt dagrau yn un o neillduolion Paul. Wylai fel yr ysgrifenai. ‘Y mae wylo o flaen gweithio.’ Luther.#20:19 llawer C H L; gad. א A B D E Brnd., a phrofedigaethau a ddygwyddasant i mi yn nghynllwynion yr Iuddewon#20:19 Teimlai fwy oddiwrth erledigaethau yr Iuddewon na'r Cenhedloedd. Yn awr llefara am danynt fel estroniaid.: 20y modd nad ateliais#20:20 Ffugyr forwrol. Y mae yr Eglwys fel Llong, a'r Apostol fel Cadben, a'r Athrawiaethau fel hwyliau, ac nid yw wedi tynu un o honynt i lawr, ond wedi eu lledu i'r awelon, heb guddio dim ond dangos yr oll, a gwneyd ei oreu i fordwyo yn llwyddianus a chyrhaedd y Porthladd Tawel yr ochr draw. ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegu i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd#20:20 megys yn Ysgol Tyrannus, am ddwy flynedd, ac yn y Synagog., ac o dŷ i dŷ; 21gan dystiolaethu i Iuddewon a Groegiaid hefyd, yr edifeirwch#20:21 Dyma ddechreuad Teyrnas Dduw yn yr enaid, a dygant gyda hwy broffwydoliaeth o'r oll sydd yn canlyn. Ni chyfyngir ‘edifeirwch’ i'r Cenhedloedd, fel rhai wedi gwrthgilio oddiwrth Dduw, a ‘ffydd’ tuag at Grist fel eu hanghenrhaid mawr hwy. Yr oedd eisieu y grasusau hyn ar bawb. sydd tuag at Dduw, a ffydd#20:21 Dyma ddechreuad Teyrnas Dduw yn yr enaid, a dygant gyda hwy broffwydoliaeth o'r oll sydd yn canlyn. Ni chyfyngir ‘edifeirwch’ i'r Cenhedloedd, fel rhai wedi gwrthgilio oddiwrth Dduw, a ‘ffydd’ tuag at Grist fel eu hanghenrhaid mawr hwy. Yr oedd eisieu y grasusau hyn ar bawb. tuag at ein Harglwydd Iesu Grist#20:21 Grist א A C D E Ti. [Tr.] Diw.; gad. La. Al. WH.. 22Ac yn awr, wele myfi, yn rhwym yn yr yspryd#20:22 Nid ‘yn cael fy ngorfodi, fy nghymhell, gan yr Yspryd Glân, ond y mae yn fy yspryd fy hun gynhyrfiad, gynhelliad anorchfygol.’ Teimlai ei bod yn ddyledswydd arbenig arno i ymweled a Jerusalem. Daw yr Yspryd Glân i mewn yn yr adnod nesaf., yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddant i mi ynddi#20:22 Er ei fod yn ysprydoledig, nid oedd yn holl‐wybodol.: 23oddieithr fod yr Yspryd Glân o ddinas i ddinas yn tystiolaethu#20:23 Nid yn unig yn ei yspryd ei hun, ond hefyd trwy ‘y dysgyblion’ (21:4), Agabus (21:10, 11), ac eraill. Yr un modd y teimlai pan yn ysgrifenu at y Rhufeiniaid (15:31). ‘Fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufydd yn Judea.’ i#20:23 i mi א A B C D E Brnd.; gad. H L. mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau#20:23 Felly yn Phil 1:16, ‘gan feddwl dwyn mwy o flinder [gorthrymder] i'm rhwymau i.’ Gorthrymder, poen meddyliol, ing enaid. yn fy aros. 24Eithr nid#20:24 Felly א B C Brnd.; nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun E G H. Y mae amrywiol ddarlleniadau o'r adnod hon yn y gwahanol law‐ysgrifau. wyf yn gwneuthur unrhyw gyfrif o'm heinioes fel yn werthfawr i mi fy hun#20:24 ‘Nid wyf yn cyfrif fod cadw fy mywyd er fy mwyn fy hun yn werth ei enwi.’ ‘Byw i mi yw Crist,’ &c., Phil 1:21.#20:24 Felly א B C Brnd.; nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun E G H. Y mae amrywiol ddarlleniadau o'r adnod hon yn y gwahanol law‐ysgrifau., fel y gorphenwyf#20:24 Neu, ‘mewn cydmariaeth i orphen.’ Yr oedd Paul am orphen ei waith, a llwyddodd i wneyd hyny (2 Tim 4:7). Ychydig o honom ni sydd yn gorphen; ein hanes yw ei adael — heb ei orphen. fy ngyrfa#20:24 llyth: rhedfa, cydmariaeth hoff a mynych gan Paul (1 Cor 9:24–27; Phil 3:11–14). Yr oedd wedi gweled y campau Groegaidd. Rhedfa. Y mae y bywyd crefyddol yn gofyn yni a phenderfyniad a chyflymder. Yr ydym yn aros ac yn rhodio gyda Duw, ond i redeg i wneuthur ei ewyllys yn mhlith dynion.#20:24 gyda llawenydd C E H L; gad. א A B D Brnd. a'r weinidogaeth#20:24 Diakonia, gwasanaeth (llyth: diaconiaeth) anrhydeddus a chyfrifol (gweler 1 Tim 1:12). a dderbyniais#20:24 ar ei droedigaeth. gan yr Arglwydd Iesu#20:24 Arglwydd Iesu, teyrngarwch a serch., i dystiolaethu Efengyl gras Duw. 25Ac yn awr, wele, mi a wn na welwch chwi oll fy wyneb i mwyach#20:25 Diameu i Paul gael ei ryddhâu ar ol ei garchariad hir yn Rhufain, ac iddo ymweled a rhanau o Asia Leiaf ar ol hyn. Dywedir iddo fod yn Troas a Miletus (2 Tim 4:13, 20), a gwnawd parotoad ar gyfer ei ymweliad â Colosse (Philemon 22). Felly bu yn nghymydogaeth Ephesus ar ol hyn. Ond ar y pryd hwn, yr oedd dan argyhoeddiad cryf na ddychwelai drachefn; ac yr oedd yn gwybod, beth bynag, na cheid cyfarfod fel hwn. Nid oedd ganddo unrhyw obaith dyfod atynt eto. Felly, nid yr ystyr ydyw, ‘Ni chewch chwi oll fy ngweled,’ gan awgrymu y bydd rhai o honynt wedi meirw cyn ei ddyfodiad drachefn. Argyhoeddiad meddwl ac nid prophwydoliaeth sicr, geir yma., yn mysg y rhai y tramwyais, gan bregethu y Deyrnas#20:25 Fel yn Mat 8:12. ‘Yr Enw’ (Act 5:41), ‘Y Ffordd,’ 19:23. Nid oes ond ‘Un Enw’ o ddylanwad yn y Nefoedd, ond ‘Un Ffordd’ i fyned yno, ac ‘Un Deyrnas’ i bara byth.#20:25 Teyrnas Dduw E H L; y Deyrnas א A B C Brnd.. 26Gan hyny yr wyf yn tystio#20:26 marturomai, protestio, dadgan yn ngwydd tyst, galw rhai i fod yn dystion; martureô, dwyn tystiolaeth. Defnyddir y blaenaf gan Paul yn unig (Gal 5:3; Eph 4:17 &c.). i chwi y dydd heddyw#20:26 pwysleisiol, ‘Y dydd diweddaf, hir‐gofiadwy hwn.’, fy mod i yn lân#20:26 Cyfeiriad, efallai, at Esec 3:17–21; 33:1–9. Dywedir nad oes dyfyniad o Eseciel yn y T.N. Ystyrier y tebygrwydd rhyngddo a'r Dadguddiad, ‘Y Cerubiaid,’ ‘Y pedwar creadur byw,’ &c. oddiwrth waed pawb oll#20:26 Dyma'r cysur penaf wrth ymadael.; 27canys nid ymateliais rhag mynegu holl gynghor Duw#20:27 holl gynllun a chynwys yr Iachawdwriaeth. i chwi. 28Edrychwch atoch eich hunain ac at yr holl braidd, yn mhlith y rhai#20:28 llyth: yn yr hwn [braidd]. Yr oeddent yn rhan o'r praidd, yn frodyr yn mhlith brodyr. y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Arolygwyr#20:28 Gr. episkopoi. Gelwir hwynt Henuriaid yn ad 17. Gweler yno., i fugeilio#20:28 (1) i'w phorthi, (2) i'w harwain, (3) i'w noddi. Yr Yspryd Glân a'u gosododd. Y mae dyn yn myned o'r golwg. Nid bysedd dyn ond llaw Duw yw y moddion effeithiol i wir ordeinio Arolygwyr yr eglwysi. Eglwys Dduw#20:28 Y mae yn y llawysgrifau amrywiol ddarlleniadau, ond nid yw y naill na'r llall ond llygriad o un o'r ddau uchod. Y mae y brif ddwy lawysgrif yn ffafr Duw. Defnyddia Paul ‘Eglwys Dduw’ un‐ar‐ddeg o weithiau. Os ‘Eglwys yr Arglwydd’ sydd gywir, ni ddygwydda mewn un lle arall. Os dywedir, ar un llaw, fod y darlleniad hwn wedi ei gyfnewid i ‘Eglwys Dduw,’ o herwydd fod yr olaf yn fwy cyffredin, gellir dywedyd, ar y llaw arall, fod ‘Eglwys Dduw’ wedi ei gyfnewid i ‘Eglwys yr Arglwydd,’ oblegyd fod yr hyn a ganlyna yn swnio yn hynod o ddyeithr, sef bod ‘Duw’ wedi prynu yr Eglwys trwy ei waed ei hun. Rhai a dybiant fod y gair ‘mab’ wedi syrthio allan, ‘trwy waed ei Fab ei hun.’ Eraill: ‘Eglwys Dduw [y Tâd] yr hon a brynodd trwy waed oedd eiddo iddo ei hun,’ sef gwaed Crist, yr hwn oedd ei ‘briod Fab.’#20:28 Dduw א B Al. WH. Diw.; yr Arglwydd A C D La. Ti. Tr., yr hon a brynodd#20:28 Yma ac yn 1 Tim 3:13, (‘pobl briodol,’ 1 Petr 2:9) ‘cadw neu elwa i ddyn ei hun,’ enill, cael meddiant o, prynu. Efe trwy ei briod waed. 29Mi#20:29 Canys, E; gad. א A C D Brnd.; a wn#20:29 hyn E H L; gad. א A B C D. y daw i mewn i'ch mysg ar ol fy ymadawiad#20:29 Dynoda aphixis mewn Groeg clasurol, dyfodiad, ond, yn fynych mewn Groeg diweddarach, ymadawiad. Rhai ydynt yn ffafr dyfodiad, ‘Ar ol fy nyfodiad i i'ch plith, daw eraill.’ Canlynid Paul i lawer lle gan y gau‐athrawon. fleiddiaid blinion#20:29 llyth: trymion, yna, gorthrymus, creulon, dinystriol, aethus. Nid erlidwyr, ond gau‐athrawon, oeddent., y rhai nad arbedant y praidd. 30Ac o'ch plith chwi eich hunain#20:30 Yr oedd Cerinthus, gwrthwynebydd Ioan, yn un o'r rhai a ‘ddaethant i mewn’; ond yr oedd Hymenæus, Alexander, a Philetus o blith yr Ephesiaid eu hunain (1 Tim 1:20; 2 Tim 2:17). Gweler tystiolaeth Ioan am danynt (Dad 2:2). Cadwodd yr Ephesiaid yn lled agos at gyfarwyddyd yr Apostol. y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gŵyrdraws#20:30 Gweler 13:8; Mat 17:17; Phil 2:15., i dynu ymaith y dysgyblion ar eu hol eu hunain. 31Am hyny gwyliwch#20:31 Gair bugeiliol, ‘byddwch ar eich gwyliadwriaeth, yn hollol effro, gan edrych allan am y gelyn, y blaidd, fel na ddinystrio'r praidd.’, gan gofio mai am dair blynedd#20:31 Gweler 19:8–10. Bu yn dysgu am dri mis yn y Synagog, ac am ddwy flynedd yn ysgol Tyrannus. Tebygol iddo aros rai misoedd ar ol hyn yn Ephesus., ddydd a nos, ni pheidiais gynghori#20:31 gosod yn ddifrifol o flaen y meddwl, trwy rybuddio, cynghori, &c. (Yma a saith o weithiau yn Epistolau Paul). pob un gyda dagrau#20:31 Gan ddangos ei gyd‐ymdeimlad, ei dynerwch, a'i ddifrifoldeb. Ei ddagrau oeddent ei nerth; yn awr, ystyrir hwy yn rhy fynych fel arwyddion o wendid.. 32Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i#20:32 Frodyr C E.; gad. א A B D Brnd. i Dduw א A C D E Brnd. ond WH. i'r Arglwydd B WH. Dduw ac i Air#20:32 Nid Crist fel y Gair (Y mae hyn yn gyfyngedig i Ioan); ond yr Efengyl yn ei hathrawiaethau adeiladol a'i haddewidion cysurlawn, yn enwedig ynghylch y Dadleuydd Dwyfol a'i ddoniau. ei ras, yr Hwn#20:32 Sef Duw trwy ei Air. sydd yn alluog i adeiladu ac i roddi#20:32 i chwi C. gad. א A B D E Brnd. yr Etifeddiaeth#20:32 Cyferbyniaeth i Ganaan. Gelwir hi yn fynych yn y LXX. ‘Etifeddiaeth.’ Gelwid yr Israeliaid hefyd, ‘Rhai Sancteiddiedig,’ Deut 33:3. Yma, adeiladu yn gyntaf, etifeddiaeth i ddylyn. yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33Arian neu aur neu wisg#20:33 Un ffurf i gasglu cyfoeth yn y Dwyrain (Gen 14:22; Ex 3:22; 1 Br 10:25; 2 Br 5:26; Job 27:16, &c.). Yr oedd Ephesus yn nodedig fel tref lle y gwnelid gwisgoedd gorwych. neb ni chwenychais. 34Chwychwi a wyddoch i'r dwylaw hyn wasanaethu i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi#20:34 llyth: ‘i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi y gwasanaethodd y dwylaw hyn.’ Gweithiodd yr Apostol fel pabellwr gyda Acwila yn Corinth, ac y mae yn debygol iddo barhâu yn Ephesus. Efallai hefyd iddo gynal Timotheus ac eraill.. 35Rhoddais i chwi esiampl#20:35 ystyr hupodeiknumi yw dangos fel neu trwy esiampl: gweler Luc 6:47; Act 9:16; Ioan 13:15. yn mhob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo#20:35 llyth: cymeryd gafael mewn rhyw un er ei ddal i'r lan, dal i fyny'r gwan: gweler Luc 1:54; 1 Tim 6:2 y gweiniaid#20:35 tlodion, afiachusion, yn hytrach na gweiniaid y ffydd., a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, iddo ei Hun ddywedyd#20:35 Ni cheir y dywediad hwn yn yr Efengylau; ond y mae yn cynwys swm gwaith Crist ac yn anadlu yspryd ei Efengyl. Ychydig o wir ddywediadau Crist tu allan i'r Pedair Efengyl a geir ar gof a chadw. Ac y maent yn ddigon. Er na allai y byd gynwys yr oll, eto y mae yn ymddangos fel ei Ewyllys Ddwyfol fod i'r oll o'i ymadroddion tu allan i'r Efengylau i fyned i ddifancoll. Rhoddodd i ni y ‘llyfr bychan’ ond y mae ynddo hadau llyfrgell anfesurol., Gwynfydedig yw Rhoddi yn hytrach na Derbyn#20:35 Dyma un arall at y ‘Gwynfydau,’ ‘Gwyn fyd’ oedd ei anerchiad cyntaf a dyma ei air olaf trysoredig. Y mae y gair hwn fel Efe ei Hun, yn Alpha ac Omega. Mor wahanol i farn a theimlad y byd y dywediad hwn! Dywedai hen fardd Groegaidd, ‘Rhoddwyr ydynt ffyliaid ond derbynwyr ydynt ffodus.’. 36Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a myned ar ei liniau#20:36 llyth: dodi ei liniau i lawr. Dyma ddarlun byw a phrydferth, ar yr hwn yr oedd yr angylion yn edrych! Gwelwn Paul yn uwch ar ei liniau nag yn un man arall. Arferai y Cristionogion cyntaf sefyll wrth weddio ar Ddydd yr Arglwydd, ac yn ystod y saith wythnos rhwng y Pasc a Phentecost. Ar adegau ereill penlinient., efe a weddïodd gyda hwynt holl. 37Ac wylo yn dost a wnaeth pawb#20:37 llyth: ac wylofain mawr o ran pawb a fu., ac a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant#20:37 Golyga y ferf cusanu drachefn a thrachefn, cusanu yn wresog, gan ddangos teimlad byw. Defnyddir yr un gair am Judas yn cusanu Crist (Mat 26:49) Mor wahanol yr achlysur! Paul yn derbyn cusan dysgyblion pur a chywir; y Meistr, gusan y Bradwr du! A chusan ar wefusau brawd tyner a chariadus a geir yma, ac nid cusanu bawd rhyw Bab ymhongar. drachefn a thrachefn, 38gan ymofidio yn benaf am y gair a ddywedasai, na chaent dremio#20:38 Gair cryfach na'r un a ddefnyddiodd Paul. Llyth: nad ydynt ar fedr syllu ar, &c. ar ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong#20:38 Yr oedd y porthladd ryw bellder o'r ddinas. Dyma ran o'r orymdaith tua'r nefoedd, er ei bod trwy Ddyffryn y Dagrau hyd Borth Cyfyng y Ffarwelio. Eto, ‘Canu yn iach,’ yw yr ymadawiad, oblegyd y mae Angel Gobaith yn cyfeirio at y ‘cwrdd yn iach’ a gymer le maes o law..
सध्या निवडलेले:
Actau 20: CTE
ठळक
कॉपी करा
तुलना करा
सामायिक करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.

: