Actau 17
17
O Philippi i Athen, 1–15.
1Ac wedi iddynt wneyd ei ffordd#17:1 ar hyd Ffordd Egnatia, a elwid felly ar ol Egnatia, ar gyffiniau Apulias lle yr oedd terfyn Ffordd Appia. Y ddwy hyn oedd y ffordd fawr o'r Dwyrain, i'r Gorllewin. trwy Amphipolis#17:1 Ar lan y Strymon, yr hon a lifai bron o'i hamgylch. Amphipolis oedd prif‐ddinas y Rhanbarth Cyntaf o Macedonia. Yr oedd 30 milltir o Philippi, i'r deheu orllewin. Gelwid hi gynt y Naw Ffordd, oblegyd ei bod yn ganolbwynt cymaint o leoedd. ac Apollonia#17:1 Yr oedd yr Apollonia hyn yn Mydonia. Yr oedd dinas enwog arall o'r un enw yn Illyria. Yr oedd hon 30 milltir o Amphipolis., hwy a ddaethant i Thessalonica#17:1 yr hen Therma, ar lan y môr. Galwyd hi Thessalonica gan Cassander, mab Antipater, yr hwn a'i hadnewyddodd, ar ol ei wraig, chwaer Alexander Fawr, yr hon a alwyd gan ei thad Philip, Thessalonica, ar ol ei fuddugoliaeth ar y Thessaloniaid. Yr oedd yn dref boblog a llewyrchus. Hi oedd prif‐ddinas yr Ail Ranbarth o Macedonia, a phan y gwnawd yr oll yn un dalaeth, gwnawd hi yn brif‐ddinas yr oll. Yr oedd 37 milltir o Apollonia. Trigai llawer o Iuddewon ynddi. Y mae heddyw yr ail ddinas yn yr Amherodraeth Dyrcaidd, yn cynwys tua 80,000 o drigolion, ac y mae eu haner yn Iuddewon., lle yr oedd Synagog yr Iuddewon. 2Ac fel yr oedd yn arferol#17:2 yn Salamis (13:5); Antioch yn Pisidia (13:14, 15); Iconium (14:1). gan Paul, efe a aeth i mewn atynt; ac am dri Sabbath#17:2 Neu, tair wythnos. Bu yn hwy yma. Gweler 1 Thess 2:9–12; 2 Thess 3:7–12. yr ymresymodd#17:2 dialegomai, cyd‐ymddyddan, rhydd‐ymddyddan. Yn ol arfer y Synagog yn fynych (Luc 4:16–27), a'r athronwyr Groegaidd, megys yn ‘Cyd‐ymddyddanion Plato.’ Defnyddir y gair naw o weithiau yn yr Actau, fynychaf yn yr ystyr o lefaru, pregethu, &c. a hwynt o'r Ysgrythyrau#17:2 Rhai a gysylltant fel hyn ‘Gan agoryd a gosod allan o'r Ysgrythyrau,’ &c., 3gan agoryd#17:3 gan ddylyn esiampl ei Feistr, Luc 24:32. ‘Tra yr ydoedd efe yn agoryd i ni.’ Agoryd yn drwyadl (dia), gwneyd yn eglur yr hyn oedd yn anhawdd neu yn dywyll, dwyn i'r goleu y meddwl mewnol. a gosod#17:3 gosod yn ymyl eu gilydd res o Ysgrythyrau i brofi ei bwnc ac i argymhell ei athrawiaeth. Y mae yn gyntaf yn egluro ac yna yn cadarnhau ei osodiadau trwy ddyfyniadau, &c. allan fod yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a chyfodi drachefn o feirw, ac, meddai, Hwn yw y Crist#17:3 Eraill, ‘Ac mai y Crist hwn yw Iesu,’ neu, ‘Hwn y Crist Iesu, yr hwn,’ &c. Iesu, yr hwn yr wyf yn ei gyhoeddi i chwi.
4A rhai o honynt a argyhoeddwyd#17:4 llyth: a berswadiwyd. ac a ychwanegwyd#17:4 llyth: rhoddwyd trwy goel‐bren; a drosglwyddwyd fel meddiant neu etifeddiaeth, ‘a wnaed yn etifeddiaeth i Paul,’ &c. Y mae y ferf yn y goddefol. Duw sydd yn trosglwyddo neu yn cyfleu. Gelwir yr eglwys yn etifeddiaeth, 1 Petr 5:3. i Paul a Silas, ac o'r Groegiaid defosiynol#17:4 sef y proselytiaid, y rhai a fynychent y Synagog (13:43, 50; 16:14). luaws mawr, ac o'r gwragedd penaf#17:4 llyth: cyntaf, o radd uchel. Yr oedd safle gwraig yn Macedonia yn uwch nag yn un rhan o'r byd. Yn Athen nid oedd yn well na chaeth‐forwyn, ond yn Macedonia gallai ddal meddiant o diroedd, &c. nid ychydig. 5Eithr yr Iuddewon#17:5 anghrediniol gad. א A B E Brnd., gan genfigenu, a chymeryd atynt ryw ddynion drwg#17:5 poneros, drwg, isel, iselwael, diwerth. o'r gwehilion#17:5 agoraios, un o'r Agora, y Farchnadle; segurwyr a gyd‐gasglant mewn lleoedd cyhoeddus, oferwyr, dynionach diwaith a diwerth; gwerinos, gwehilion., ac wedi casglu tyrfa, hwy a osodasant y ddinas mewn terfysg; a chan ymosod ar dŷ Jason#17:5 Ni wyddis rhagor am dano. Enwir Jason yn Rhuf 16:21, fel câr Paul; ond nid oes sicrwydd mai hwn oedd hwnw. Jason yw y Groeg am Josua, Iesu (2 Macc 1–7)., hwy a'u ceisiasant, er eu dwyn allan at y bobl#17:5 Y bobl oedd yr awdurdod yn y dinasoedd rhyddion. Gwerin‐lywodraeth ydoedd yma (demos, S. democracy).. 6A phan na chawsant hwynt, llusgasant#17:6 Yr hyn oedd Paul yn arfer wneyd (8:3) ac a wnaed iddo (14:19). Jason a rhai brodyr gerbron Llywodraethwyr#17:6 Politarchai (Groeg clasurol, Poliarchoi), Politarchiaid, llyth: dinas-lywodraethwyr. Ynadon Thessalonica yw yr unig rai a elwir wrth yr enw hwn yn yr Actau. Enw priodol ar lywodraethwyr dinas rydd. Y mae heddyw yn Thessalonica fwa henafol ar yr hwn y mae enwau saith o'r Politarchiaid wedi eu cerfio, ac y mae tri o'r saith yn dwyn enwau tri o gymdeithion Paul, Sopater, Gaius, a Secundus. y ddinas, gan waeddi, Y rhai sydd yn chwyl‐droi#17:6 anastatoô, cynhyrfu, ansefydlu, aflonyddu, codi gwrthryfel. y byd#17:6 y byd trigianol, h.y. yr Amherodraeth Rufeinig. ydynt bresenol yma hefyd; 7y rhai a roesawodd#17:7 llyth: derbyn dan (gronglwyd), derbyn yn roesawgar (Luc 10:38). Jason; ac y mae y rhai hyn oll yn gweithredu yn erbyn gorchymynion#17:7 dogmata, ordeinadau, gosodiadau, dedfrydau. Mor gyfrwys oedd y gelynion, fel yn Philippi, yn cyfaddasu y bluen i liw y dwfr. Yno y cyhuddiad oedd dwyn i fewn ‘arferiadau newyddion,’ yma codi gwrthryfel yn erbyn Cesar, Yr oedd Augustus wedi gwneyd Thessalonica yn ddinas rydd, o herwydd fod teimlad y trigolion o'i blaid ef ac Anthoni cyn eu buddugoliaeth ar Brutus a Cassius. Nid oeddent am beryglu dim ar eu hanybyniaeth. Efallai fod cyfeiriad yma at Lex Julia de Majestate, sef Deddf yr Amherawdwr ynghylch mawrhydi ei swydd. Cesar, gan ddywedyd fod brenhin#17:7 Ni feiddid galw neb yn ‘frenhin’ heb ganiatad yr Amherawdwr. Er na elwid ef yn rex, brenhin, eto defnyddid y gair Groeg basileus am dano. Hwn oedd y cyhuddiad a ddygwyd yn erbyn Crist (Ioan 19:15). arall#17:7 llyth: gwahanol. Y mae yn amlwg fod Paul wedi llefaru yn helaeth a difrifol am ei Deyrnas, a'i ddyfodiad i farnu y byd (1 Thess 2:12; 2 Thess 1:5)., Iesu. 8A hwy a gyffroisant y dyrfa a Llywodraethwyr y ddinas, pan glywsant y pethau hyn. 9Ac wedi derbyn sicrwydd digonol#17:9 Brawddeg gyfreithiol (Llad. satis accipere, myned yn fachnïydd, gosod i lawr swm o arian, &c.) Efallai i Jason eu sicrhau y byddai i Paul ymadael, neu, na wnelent gythrwfl pellach (Marc 15:5). oddiwrth Jason a'r lleill, hwy a'u gollyngasant ymaith allan. 10A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea#17:10 Tua 60 milltir o Thessalonica, yn agos i Pella, yn y drydedd Ranbarth o Macedonia. Ar ol hyn gelwid hi Irenopolis ‘Dinas Heddwch.’ Yn awr Verria. Hon oedd cartref Sopater, un o gymdeithion Paul (20:4; Rhuf 16:21).; y rhai wedi cyrhaedd yno, a aethant i Synagog yr Iuddewon. 11A'r rhai hyn oedd foneddigeiddiach#17:11 eugeneis, o waed uchel, pendefigaidd, urddasol, uchelryw. Desgrifir cymeriad ac nid disgynedigaeth neu ach. Cam‐enw ar gyfoethogion yw boneddigion. Yr oedd gwell boneddigion yn Berea ddinod nag yn Thessalonica uchel‐frydig. Cyfieitha Calvin, Luther, a'r Vulgate, ‘Y rhai hyn oedd y boneddigeiddaf o'r rhai yn Thessalonica, y rhai a dderbyniasant y Gair,’ &c.; ond nid hyn yw y synwyr. na'r rhai yn Thessalonica, yn gyfryw ag a dderbyniasant y Gair gyda phob brwdfrydedd#17:11 prothumia, zel, awydd, awyddfryd, angerddoldeb, brwdfrydedd, parodrwydd. Yr oedd gan y Thessaloniaid zel i erlid, gan y Bereaid i chwilio., gan chwilio#17:11 anakrinô, term cyfreithiol am yr holiad manwl a thrylwyr i dystiolaeth neu brawf er gweled a ydoedd achos digonol i'r mater fyned o flaen y barnwr yn derfynol; felly holi, holi yn ofalus (ana), o'r pen i'r gwaelod. Yr oedd y galon ar dân, ond y pen yn dawel, a phwyllog, a chlir. Yr oedd Paul a Silas yn bregethwyr Ysgrythyrol, gan wneuthur defnydd helaeth o'r Hen Destament; astudiai y Bereaid yr Hen Lyfr gydag yspryd ac yn y goleu newydd er pwyso a barnu yr oll a ddywedid. Ymarferasant eu rhagorfraint o farn ddirgel. Ni dderbynient eiriau Apostolion heb eistedd mewn barn bwyllog a gonest arnynt. Ni chydnabyddent ‘awdurdod’ ond eiddo Duw yn y rheswm, y deall, a'r gydwybod. Troisent glust fyddar ar Bab yn llefaru ex cathedra, fel y cyfryw. ‘At y Gair ac at y Dystiolaeth’ oedd eu harwyddair; ond cawsant fod Gwirionedd yn dal y prawf ac yn werth ei chwilio. yr Ysgrythyrau yn ddyddiol, a oedd y pethau hyn felly. 12Gan hyny yn wir, llawer o honynt a gredasant; ac o'r gwragedd a'r gwyr Groegaidd anrhydeddus#17:12 Neu, o'r Groegesau anrhydeddus ac o'r gwyr. Y mae yr ansoddair Groegaidd mewn ffurf yn cytuno a gwragedd, ond gall hefyd gynwys gwyr (Matthaei, § 4, 41)., nid ychydig. 13Ond pan wybu yr Iuddewon o Thessalonica fod Gair Duw yn cael ei gyhoeddi yn Berea hefyd gan Paul, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu#17:13 saleuô, ysgwyd, siglo (megys gan wyntoedd, &c.), cyffroi. a#17:13 a chythryblu א A B D Brnd. chythryblu y torfeydd#17:13 Neu, gan gynhyrfu a chythryblu yno hefyd.. 14Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith i fyned hyd#17:14 hyd at (heôs) א A B E Brnd. ond A; megys (hôs) H. Al. at#17:14 er mwyn hwylio tuag Athen, yr hyn, yn ddiamheu, a wnaeth. Yr oedd Athen 250 o filltiroedd o Berea. Pe buasai Paul wedi myned yno ar draed, byddai yn naturiol i roddi hanes y lleoedd yr aeth trwyddynt, a'r hyn a wnaeth ynddynt. Gallasai gyrhaedd Athen yn mhen tri diwrnod a myned dros y môr. y môr; a Silas a Thimotheus hefyd a arosasant yno. 15Ond y rhai a dywysent Paul a'i dygasant hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus ar iddynt ddyfod ato gyda phob brys, hwy a aethant ymaith#17:15 Nid oes genym hanes yn yr Actau iddynt ddyfod a'u bod gydag ef yn Athen, ond iddynt ei gyfarfod yn Corinth (18:5), ond dywed Paul iddo ddanfon Timotheus oddiyno er iddo ymweled a Thessalonica i gadarnhau y Saint (1 Thess 3:1, 2). Felly y mae yn debygol i Silas a Thimotheus ddyfod, ac i'r blaenaf ddychwelyd yn fuan ac am dymhor byr i Thessalonica..
Paul yn Athen, 16–34.
16Ac yn Athen#17:16 Athen a enwid ar ol Athenê, sef Minerva, duwies warcheidwol y ddinas. Yr oedd 5 milltir o'r môr Ægeaidd. Piræus oedd ei phorthladd. Hi oedd ‘prif‐ysgol’ y byd, cartref pob gwybodaeth a chelfyddyd. Yr oedd o ran ei themlau, cofadeiliau, cerfluniau, &c., yr enwocaf yn y byd. O fewn ei muriau yr oedd pedwar bryn; yr Acropolis oedd yr uchelaf o honynt, ac ar ei gopa oedd cerf‐ddelw fawreddog Minerva; yr Areopagus (Bryn y duw Mawrth), lle y cyfarfyddai y Senedd; y Pnyx, lle y cyfarfyddai y bobl yn eu cynnulliadau cyhoeddus, a'r Amgueddfa. Athen oedd ‘llygad Groeg,’ a Groeg ar y pryd a ystyrid yn Oleuni y byd. tra yr oedd Paul yn eu disgwyl hwynt, ei yspryd a gynhyrfwyd#17:16 cyffroi yn llym, cael brath wrth sylwi ar y ddinas. ynddo wrth edrych ar y ddinas yn llawn o eilunod#17:16 kateidôlon [wedi ei ffurfio fel katadendros, llawn o goed, katampelos, llawn o ffigyswydd]. Yr oedd Athen yn llawn o demlau, delwau, allorau, &c. Dywed Petronius ei bod yn haws cael duw na dyn yn Athen. Dywed Pausanias nad oedd un lle mor llawn o ddelwau: yr oedd yno gymaint arall o wyliau crefyddol ag yn yr un ddinas arall. Desgrifia Xenophon hi fel un allor fawr, un aberth.. 17Gan hyny yn wir efe a ymresymai#17:17 Gwel ad 2. Dyma y ‘dull Socrataidd,’ trwy ofyn ac ateb, &c. Yr oedd Paul yn cyfaddasu ei hun, fel ag i wneyd ei hun ‘yn bob peth i bawb’ (1 Cor 9:22). yn y Synagog â'r Iuddewon a'r rhai defosiynol#17:17 Neu, duwiol, crefyddol, addolgar., ac yn y Farchnadle#17:17 Rhwng yr Acropolis, Areopagus, a Pnyx. Yr oedd yn ganolfan y bobl i ddybenion masnach a phleser. Yma yr ymresymodd Socrates. bob dydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef#17:17 gan ddefnyddio pob awr a phob cyfleustra i oleuo'r bobl, hyd y nod y rhai oedd yn myned heibio.. 18A rhai hefyd o'r athronwyr Epicureaidd#17:18 Canlynwyr Epicurus, yr hwn a anwyd yn Samos ond a ddysgai yn Athen tua 300 o flynyddau cyn Crist. Eu prif ddaliadau, (1) fod y byd wedi ei greu trwy ddamwain neu ddygwyddiad trwy ddyfodiad ynghyd o fan‐ronynau (atoms); (2) fod y duwiau yn byw ar wahan mewn dedwyddwch tawel heb gymeryd dyddordeb mewn dim tu allan i'w cylch, nac un gofal am y byd; felly yr oeddent yn Atheistiaid ymarferol; (3) mai y Da Penaf oedd Pleser, ac mai y synwyrau oedd i farnu pa peth oedd y pleser goreu, felly yr oeddent yn Faterolwyr; o ganlyniad, credent (4) fod yr enaid yn darfod gyda'r corph. Felly yr oeddent yn rhyw Saduceaid cenhedlig. a Stoicaidd#17:18 Canlynwyr Zeno, yr hwn a berthynai i'r un oes ag Epicurus (C.C. 360–260). Yr oedd o Citium yn Cyprus. Gelwid hwy Stoiciaid oddiwrth y Stoa Poikêlê, y Porth Arliwiedig, yn yr hwn yr oedd yr arluniau o frwydr Marathon, &c., lle yr arferai Zeno ddysgu. Prif bwyntiau eu credo, (1) mai Duw oedd enaid y byd ac yn anwahanedig oddiwrtho, ac y byddai i'r oll yn y diwedd i gael ei lyncu i fyny ynddo fel yn Nirvana y Buddhistiaid, ac yna y byddai ail-ddechreuad pethau; felly credent mewn Holl‐dduwiaeth; (2) fod rhyw fath o Ragluniaeth yn gofalu megys am beirianwaith y bydysawd, ond fod rhaid i bob peth ddygwydd yn ol tynghedfen anocheladwy, felly ni chredent yn ngofal Duw am ei greaduriaid bob yn un ac un; (3) mai Rhinwedd oedd y Da Penaf, ar yr hon yr edrychent fel yn dwyn ei gwobr ei hun; ac ni welent wahaniaeth rhwng poen a phleser; ac yr oedd pob gwybodaeth i fod yn seiliedig ar ymsynwyriad neu deimlad, ac felly yr oeddent yn tueddu i fod yn faterolwyr. Hyd y nod yr oedd natur Duw yn faterol, yn gyfansoddedig o ryw fath o dân a dreiddiai trwy y bydysawd. Yr oedd y Stoiciaid yn fath o Phariseaia Cenhedlig. a ymddadleuent ag ef; a rhai a ddywedent, Beth a fyn y clebryn#17:18 Spermologos [yma yn unig yn y T.N. ac yn y LXX]. llyth: pigo i fyny hadau, aderyn (yn enwedig y fran neu y gigfran) yn pigo i fyny ronynau; yna, un sydd yn byw ar yr hyn a syrth o'r hyn a berthyn i eraill; a gyfyd i fyny yr hyn sydd ddiwerth, un yn byw ar yr hyn a gyfyd i fyny ar yr heol, megys newyddion, ofer‐siarad; felly, baldorddwr, gwag‐siaradydd. hwn ei ddywedyd? ond eraill, Tebyg yw ei fod yn gyhoeddwr o dduwiau#17:18 llyth: demoniaid. Defnyddir y gair yn y T.N. am gythreuliaid ysprydion drwg; ond mewn Groeg clasurol dynoda, fel rheol, dduwiau ail-raddol, bodau goruwch‐ddynol, ond nid yn gydradd a'r prif dduwiau. Galwai y Rhufeiniaid hwynt Dii Minores. Y mae amryw o'r farn mai Iesu a'r Adgyfodiad oedd y duwiau dyeithr hyn. Yr oedd gan y Groegiaid ddelwau o brioaoleddau a dygwyddiadau. Ond defnyddir y rhif lluosog yma i ddynodi y dosparth yn hytrach na'r rhif. dyeithr; gan ei fod yn pregethu yr Iesu a'r Adgyfodiad. 19A hwy a gymerasant afael#17:19 Nid trwy drais, ond efallai mewn modd haner‐cyfeillgar, haner-chwareugar. Hwn yw y gair (epilambanô) a ddefnyddir am Barnabas yn rhoddi ei law ar Saul (9:27). ynddo, ac a'i dygasant ef at yr Areopagus#17:19 Neu, Bryn Mawrth. Yma y dywedir i'r duw Mawrth gael ei ddwyn i brawf am lofruddio ei fab Neifion. Eisteddai y Cynghor neu y Senedd yma yn yr awyr agored, ac y mae ei seddau, y rhai a gerfiwyd yn y graig, yn weledig heddyw. Ni ddygwyd Paul yma i sefyll ei brawf. Nid oes llinell i ddangos hyny yn yr holl hanes. Nid oedd y bobl yn ddifrifol. Yr oeddent mewn yspryd chwareus yn barod i wneyd difyrwch o'r Apostol. Aethant ag ef yno i foddloni cywreinrwydd; nid oeddent yn ddigon difrifol i erlid. Ychydig oedd y rhai a chwenychent o ddifrif glywed ei genadwri., gan ddywedyd, A allwn ni#17:19 Ymadrodd yn yr hwn y mae moesgarwch a chellwair yn cyd‐gwrdd. gael gwybod beth yw y ddysgeidiaeth newydd hon a leferir genyt? 20Oblegyd yr wyt ti yn dwyn i'n clustiau rai pethau sydd yn peri syndod#17:20 xenizo, peri syndod gan eu dyeithrwch. Y mae i'r ferf hefyd yr ystyr o roesawu dyeithriaid, dangos lletygarwch.: am hyny ni a fynem wybod beth all y pethau hyn fod#17:20 Neu, beth yw ystyr y pethau hyn.. 21(A'r holl Atheniaid#17:21 llyth: Ac Atheniaid oll; gadewir allan y fannod, ac felly cawn yma nodwedd neillduol y bobl., a'r dyeithriaid#17:21 Yr oedd Athen yn gyrchfa, nid yn unig i athronwyr a myfyrwyr, ond i'r dosparth cyfoethog, hamddenol, pleser‐geisiol. Hi oedd Paris yr hen fyd. oedd yn preswylio yno, nid oedd ganddynt hamdden#17:21 cael cyfleustra, hamdden; treulio amser. i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth oedd fwy newydd#17:21 Yr oedd yn arwain bywyd cyffrous. Er fod llawer o honynt yn Stoiciaid yr oeddent yn mhell o fod yn Stoicaidd. Yr oeddent yn byw ar y newydd diweddaf, ac eto yr oeddent am rywbeth mwy newydd na hwnw. Dygai Demosthenes dystiolaeth bedair canrif cyn hyn i'r un ffaith yn hanes ei gyd-ddinaswyr. Rhyfedd y fath goegedd all fod yn gymysgedig a'r coethder daearol penaf! Pethau newydd sydd yn myned yn hen gyntaf. Nid oes dim mor hen a'r Newyddiadur am ddoe.). 22A Phaul a gymerodd ei safle yn nghanol yr Areopagus#17:22 Dyma ddarlun teilwng o bwyntel Raphael, Paul yn sefyll yn nghanol mawredd, teleidrwydd, athrylith, a dysgeidiaeth y byd. Cymerodd ei safle yn nghanol Athen goronog, ar y Bryn enwog, a'r holl ddinas brydferth o flaen ei lygaid: ‘Yr oedd Teml yr Eumenidiaid odditano, a phe edrychai tua'r dwyrain, gwelai y Propylaea a'r Acropolis yn ei wynebu, a'r Parthenon yn cyfodi uwchlaw iddo; ar ei aswy yr oedd cerflun pres mawreddog Minerva, arwres Athen, a'i duwies warcheidwol; ar ei ddeheu yr oedd Teml Buddugoliaeth; tu ol iddo yr oedd Teml Theseus; a lluaws afrifed o demlau llai ac allorau yn y Farchadle ar Ceramicus odditano,’ Wordsworth. Ond wedi'r cwbl, darlun ardderchocach yw gweled Paul yn pregethu a'r Bereaid ystyriol yn chwilio yr Ysgrythyrau. Gall Raphael baentio y blaenaf, ond Yspryd Duw yn unig a all roi darlun byw o'r ail., ac a ddywedodd,
O Wyr o Atheniaid, yn mhob peth yr wyf yn eich canfod yn dra‐pharchus#17:22 deisidaimôn, ofni'r duwiau, duwiol‐frydig, crefyddol, defosiynol; weithiau (ond nid oes genym enghraifft yn y T.N.), coel‐grefyddol. Defnyddir ef bum gwaith yn Josephus mewn ystyr dda. Defnyddir deisidaimonia yn 25:19, yn yr ystyr o grefydd, ac nid cyfeiliornad neu goel‐grefydd. Ni ddechreuai Paul ei araeth mewn ffordd mor ddirmygus a galw yr Atheniaid yn ei frawddeg gyntaf yn goel‐grefyddol. Ei amcan yw eu harwain yn raddol i wybodaeth o'r Gwir Dduw. Yr oedd y teimlad o addoli yn iawn, ond y gwrthddrych iawn ar goll. o'r duwiau; 23canys wrth fyned heibio#17:23 llyth: trwy (yr heolydd, &c., neu trwy y ddinas ar fy ffordd i leoedd eraill). a sylwi yn fanwl a'r wrthddrychau eich addoliad#17:23 sebasma, pa beth bynag a anrhydeddir mewn ffordd grefyddol, megys allorau, cerf‐ddelwau, temlau (2 Thess 2:4). Felly, gellir cyfieithu: eich pethau cysegredig., mi a gefais hefyd allor#17:23 Bomos, allor paganaidd. Yma yn unig yn y T.N. Allor y Gwir Dduw a ddynodir gan thusiasterion, lle i aberthu., ac ynddo yr ar‐ysgrifen#17:23 llyth: ac ynddo yr oedd wedi ei ar‐ysgrifenu., I DDUW ANADNABYDDUS#17:23 er fod gan yr Atheniaid dduwiau afrifed, eto teimlent y gallasai eraill fodoli nad oeddent yn gwybod am danynt. Felly allor a godwyd trwy ofn oedd hon. Os dygwyddai unrhyw drychineb, priodolid ef i'r duwiau y rhai oedd yn ddigllon wrth y trigolion, ac felly yr oedd eisieu eu hadnabod, eu cydnabod, a'u cymodi. Dywedir i Epimenides roddi terfyn ar haint echryslon trwy ddwyn defaid gwynion a duon, ac aberthu i'r ‘duw priodol’ lle y gorweddent i lawr. Dywed Pausanias fod yn Phalerum allorau i dduwiau a gyfrifid yn anadnabyddus; a dywed Philostratus fod y cyfryw yn Athen. Nid oes sail i'r dybiaeth mai i Dduw yr Iuddewon y cysegrwyd yr allor hon, neu, ar y llaw arall i'r ‘Duw na ellid ei adnabod.’: yr#17:23 yr hyn … hyny א A B D Brnd. hyn gan hyny yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny#17:23 yr hyn … hyny א A B D Brnd. yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi#17:23 Nid oedd Paul yn mynegu iddynt beth newydd darfodedig, ond yn dadlenu hen wirionedd tragywyddol. Felly dengys iddynt (1) Undod Duw, yn wrthwynebol i aml‐dduwiaeth Groeg (23); (2) ei fod yn Greawdwr y bydysawd, yn wrthwynebol i ddamcaniaeth yr Epicuriaid fod y byd wedi dyfod i fodolaeth trwy gyd‐gasgliad damweiniol o fân‐ronynau (23, 24); (3) mai efe yw Cynaliwr a Llywodraethwr pob peth, yr hyn oedd yn groes i ddysgeidiaeth y Stoiciaid, y rhai a gredent mewn tynghedfen anochel; (4) mai Bod Personol ac Ysprydol yw, yn ei holl waith yn llywyddu, ac ar wahan a'i waith yn bodoli, yr hyn oedd wrthwynebol i ddaliadau y Stoiciaid, y rhai a gredent mewn Holl‐dduwiaeth; (5) Unoliaeth dyn, fel wedi disgyn o'r ‘un gwaed’ trwy weithred uniongyrchol Duw, yr hyn oedd yn taro yn erbyn balchder yr Atheniaid; (6) y Dystiolaeth a ddygir i'r Duw Personol, Holl‐bresenol, Anfeidrol hyn, yn nghydwybod dyn ac yn y byd gweledig.. 24Y Duw a wnaeth y byd a'r holl bethau sydd ynddo, hwn ac Efe#17:24 llyth: ac efe o'r dechreuad (gan ei fod o'r dechreuad.’). yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn preswylio mewn cysegrfeydd o waith llaw#17:24 A ydoedd Paul yn cofio geiriau Stephan, 12:48?; 25ac nid gan ddwylaw dynol#17:25 dynol א A B D Brnd.; dynion E. y gweinir iddo#17:25 Yr oedd yr addolwyr paganaidd yn addurno y cerf‐ddelwau, yr allorau, &c., a blodau a phrydferthion, ac hefyd yn gosod bwydydd o flaen yr eilunod. fel un ag eisieu dim arno yn ychwaneg, gan ei fod Efe ei hun yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth. 26Ac efe a wnaeth o un#17:26 Fel yr oedd un Creawdwr yn y nefoedd, felly yr oedd un tad ar y ddaear. Y mae unoliaeth yn rhedeg trwy yr oll. Y mae pren eang ffrwythlawn amryfal y ddynoliaeth wedi tyfu o'r un gwreiddyn. Yr oedd yr Atheniaid balch yn credu nad oedd yr hil ddynol wedi deilliaw o un ond o lawer. Os yw dyn yn myned i'r lan yn ol tyb Dadblygiad, y mae wedi'r cwbl wedi dyfod i lawr o un. Y mae y ffaith bwysig hon yn anghenrheidiol i esbonio y Cwymp, Pechod Gwreiddiol, a Ffeithiau Mawrion y Bywyd Newydd. Y mae yr olaf o Un, y dyn Crist Iesu. Gweler ymresymiad Paul (Rhuf 5:15–19).#17:26 gwaed D E H L [Al.]; gad. א A B Brnd. ond [Al.]. bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan benderfynu adegau#17:26 Nid tymhorau y flwyddyn, &c., ond cyfnodau dadblygiad, cryfder, a dadfeiliad y Cenhedloedd (Job 12:23). penodedig#17:26 penodedig [prostetagmenous] א A B E Brnd.; rhagbenodedig [prot:] D. a therfynau eu preswylfod hwynt; 27fel y ceisient Dduw#17:27 Dyma ddyben holl oruchwyliaethau Duw yn ei Ragluniaeth a'i oruwch‐lywodraeth.#17:27 Dduw א A B H L Brnd.; Arglwydd E., os, hwyrach#17:27 ysgatfydd, o ddygwydd. Yr unig amheuaeth sydd yn y ceisio ac nid yn y cael. Hyd y nod gellir darllen yn ngoleuni crefydd naturiol, “Ceisiwch a chwi a gewch.”, yr ymbalfalent#17:27 psêlaphaô [o psaô, cyffwrdd], cyffwrdd, teimlo, ceisio trwy gyffwrdd, fel dyn dall yn gorfod defnyddio ei synwyr o deimlo yn lle ei lygaid, ymbalfalu. Yr oedd yr Atheniaid yn falch ac yn ymffrostio yn eu gwybodaeth. Yr oedd eu dinas yn gartrefle y gwyddonau a'r celfyddydau. Yr oedd athroniaeth ac areithyddiaeth a barddoniaeth wedi gosod i fyny eu seddau yno; ond nid oeddent wedi'r cwbl yn well na deillion. Y mae Duw yn Oleuni ac yn y goleu, ac felly ynom ni y mae'r tywyllwch. Er hyny, er nad oes genym Ddadguddiad pendant, fel goleuni i'r llygaid, y synwyr penaf a feddwn, y mae genym yr ymdeimlad a gyfyd o'r cyffwrdd, y garwaf a'r iselaf o'r synwyrau. Yr ydym yn cyffwrdd a gwisg hardd y Duw mawr yn mhob rhan o'i greadigaeth; ac y mae yn llawenhau pan y mae yn teimlo ein bod yn cymeryd gafael ynddo. Nid yw mater wedi'r cwbl ond cysgod trwy yr hwn y gallwn estyn ein llaw a chydio gafael yn y sylwedd tragywyddol, Duw ei hun. Y mae yn wir fod mater yn oer; ond wrth estyn allan ein llaw at Dduw cawn ei thwymo wrth gyffwrdd a Phersonoliaeth dadol, gwresog, a thyner ein Tad ni oll. Y mae efe yn y dirgel er mwyn i ni ei gael trwy geisio. Y mae yn anfeidrol, ac felly er ei gael, y mae i'w geisio wedy'n. Y mae ei fawredd yn cyrhaedd yn mhell, ond y mae ei galon yn agos. Y mae mor agos fel y mae ynom, yn aros, er gwaethaf yr oll, yn y gydwybod. Yn fynych yr ydym yn colli golwg arno am ei fod mor agos. Edrychwn i'r nefoedd a methwn ei weled, ac wele, y mae yr holl amser yn sefyll yn ein hymyl. Iaith Crefydd naturiol yw, Oddiwrth Dduw, trwy ei waith yn ol at Dduw. Ymadrodd Crefydd ddadguddiedig, Oddiwrth Dduw, trwy Dduw yn ol at Dduw: am dano ac y caent ef: ac yn wir nid yw efe yn mhell oddiwrth bob un o honom ni: 28oblegyd ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn ymsymud, ac yn bod; megys y mae hyd y nod rhai o'ch beirdd#17:28 Megys Aratus, o Soli, yn Cilicia, yr hwn a flagurodd 270 cyn Crist, yn ei bryddest seryddol, Ta Phainomena, ‘Yr Argoelion,’ yr hwn a gana glod Zeus, yr hwn sydd yn llanw'r tir a'r marchnadleoedd, a'r môr; yr hwn sydd yn cyflenwi ein holl anghenion, canys ni hefyd ydym ei hiliogaeth. Y mae Cleanthes hefyd, yr Athronydd Stoicaidd (300–220 cyn Crist) yn rhoddi dadganiad i'r un teimlad yn ei Emyn i Zeus. chwi eich hunain wedi dywedyd, Canys ei hiliogaeth Ef ydym ninau hefyd. 29Gan hyny gan ein bod ni yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied fod y Duwdod#17:29 llyth: y Dwyfol, y Natur Ddwyfol. Y mae yr Apostol yn ofalus yn y termau y mae yn ddefnyddio fel ag i gyfarfod a chwaeth ac amgyffrediad ei wrandawyr. yn debyg i aur#17:29 Yr oedd y cerfluniau godidog yn awr o flaen eu llygaid. Yn y Parthenon yr oedd cerf‐ddelw Minerva mewn ifori ac aur; ac hefyd un arall o honi yn sefyll uwchlaw yr oll ar yr Acropolis mewn elydr ysplenydd, wedi ei gwneuthur gan Phidias. Caed y marmor gwyn o chwareli mawrion mynydd Pentelicus. neu arian neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg#17:29 Neu, feddwl. Y mae celfyddyd yn ogystal a dychymyg yn gysylltiedig a dyn. dyn. 30Duw gan hyny wedi edrych heibio#17:30 huperidôn, edrych dros, peidio talu sylw. Duw yn ei drugaredd ni chospodd y byd fel y teilyngai. Nid oedd ei anwybodaeth yn esgus i ddyn na ddylid ei gospi, ond yr oedd yn reswm gyda Duw. Gweler Deut 22:1, 3, 4; Job 31:19 i amseroedd yr anwybodaeth, yn awr a orchymyn#17:30 orchymyn [paraggellei] A D E Tr. Al. Diw.; a ddatgan א B Ti. WH. i ddynion ar iddynt oll#17:30 oll א A B D E Brnd.; i bawb dynion H L. yn mhob man edifarhâu: 31o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y mae ar fedr barnu y byd mewn cyfiawnder trwy#17:31 llyth: mewn gwr, yn Mherson Crist y mae y byd i gael ei farnu. Wr yr hwn a benododd efe, wedi rhoddi prawf#17:31 llyth: wedi cynyg ffydd. ‘Nid wedi gwneyd ffydd yn bosibl i bawb,’ ond wedi rhoddi prawfion digonol i'r byd i'r ‘Gwr’ hwn farnu'r byd yn ei Adgyfodiad o blith y meirw. i bawb, gan ei gyfodi ef o feirw. 32A phan glywsant am Adgyfodiad y meirw, rhai yn wir a watwarasant#17:32 fel y gwnaeth rhai Iuddewon ar ddydd y Pentecost (2:13). Yr Epicuriaid ysgafn, yn ddiamheu, a gynrychiolir yma gan y gwatwarwyr; a'r Stoiciaid mwy ystyrbwyll gan y rhai a ddywedasant, ‘Ni a'th wrandawn,’ &c.; ond eraill a ddywedasant, Ni a'th wrandawn di eto#17:32 eto א A B. drachefn am y peth hwn. 33Felly Paul a aeth allan o'u canol hwynt; 34ond rhai gwyr a lynasant wrtho, ac a gredasant: yn mhlith y rhai hefyd yr oedd Dionysius#17:34 Ni cheir hanes pellach am dano. Y mae traddodiad iddo gael ei wneyd yn Esgob Athen. yr Areopagiad a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
सध्या निवडलेले:
Actau 17: CTE
ठळक
कॉपी करा
तुलना करा
सामायिक करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.

: