Mathew 28
28
Atgyfodiad yr Iesu
1Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen a’r Fair arall, i edrych y bedd. 2Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 3A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.
5A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, ‘Nac ofnwch, canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6Nid yw efe yma; canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 7Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.’ 8Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.
9Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, ‘Henffych well.’ A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, ‘Nac ofnwch. Ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.’
Adroddiad y Milwyr
11Ac fel yr oeddynt yn myned, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 13gan ddywedyd, ‘Dywedwch, “Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.” 14Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddibryder.’ 15A hwy a gymerasant yr arian ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt, a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
Y Comisiwn Mawr
16A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle y penodasai’r Iesu iddynt. 17A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef; ond rhai a ameuasant. 18A’r Iesu a ddaeth ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, ‘Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19Ewch a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, 20gan ddysgu iddynt gadw pob peth a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.’ Amen.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 28: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക

: