Mathew 26

26
Cynllwyn i Ladd yr Iesu
1A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 2‘Chwi a wyddoch mai wedi deuddydd y mae’r Pasg a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio.’
3Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a henuriaid y bobl i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas. 4A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 5Eithr hwy a ddywedasant, ‘Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.’
Yr Eneinio ym Methania
6Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 7daeth ato wraig a chanddi gostrel o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 8A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, ‘I ba beth y bu’r golled hon? 9Canys fe a allesid gwerthu’r ennaint hwn am lawer, a’i roddi i’r tlodion.’
10A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, ‘Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi, ond myfi nid ydych yn ei gael bob amser. 12Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.’
Jwdas yn Cydsynio i Fradychu’r Iesu
14Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15ac a ddywedodd wrthynt, ‘Pa beth a roddwch i mi, os mi a’i traddodaf ef i chwi?’ A hwy a osodasant iddo ddeg darn ar hugain o arian. 16Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.
Y Swper Olaf
17Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y Bara Croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, ‘Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r Pasg?’ 18Ac yntau a ddywedodd, ‘Ewch i’r ddinas at y dyn a’r dyn, a dywedwch wrtho, “Y mae’r Athro yn dywedyd: ‘Fy amser sydd agos; gyda thi y cynhaliaf y Pasg, mi a’m disgyblion.’ ”’ 19A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y Pasg.
20Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, ‘Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i.’ 22A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, ‘Ai myfi yw, Arglwydd?’ 23Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, ‘Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano; eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! Da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.’
25A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, ‘Ai myfi yw efe, Athro?’ Yntau a ddywedodd wrtho, ‘Ti a ddywedaist.’
26Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo roddi diolch, efe a’i torrodd ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, ‘Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.’
27Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, ‘Yfwch bawb o hwn. 28Canys hwn yw fy ngwaed, gwaed y cyfamod newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 29Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.’ 30Ac wedi iddynt ganu salm, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
Rhagfynegi Gwadiad Pedr
31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, ‘Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i; canys ysgrifenedig yw:
“Trawaf y bugail,
a defaid y praidd a wasgerir.”#Sechareia 13:7
32Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea.’
33A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, ‘Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, ni’m rhwystrir i byth.’ 34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, y nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith.’ 35Pedr a ddywedodd wrtho, ‘Pe byddai rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim.’ Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
Gethsemane
36Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth y disgyblion, ‘Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw.’ 37Ac efe a gymerth Pedr a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. 38Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Trist iawn yw fy enaid hyd angau. Arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi.’ 39Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, ‘Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf; eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.’
40Ac efe a ddaeth at y disgyblion ac a’u cafodd hwy yn cysgu, ac a ddywedodd wrth Pedr, ‘Felly, oni allech chwi wylied un awr gyda mi? 41Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i demtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.’
42Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, ‘Fy Nhad, oni all y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.’ 43Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn, canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.
45Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, ‘Cysgwch bellach, a gorffwyswch. Wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid. 46Codwch, awn. Wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.’
Bradychu a Dal yr Iesu
47Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, ‘Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe; deliwch ef.’ 49Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, ‘Henffych well, Athro!’ ac a’i cusanodd ef.
50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Y cyfaill, i ba beth y daethost?’ Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law ac a dynnodd ei gleddyf ac a drawodd was yr archoffeiriad ac a dorrodd ei glust ef. 52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, ‘Dychwel dy gleddyf i’w le, canys pawb a gymerant gleddyf a fyddant farw trwy gleddyf. 53A ydwyt ti yn tybied na allaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? 54Pa fodd ynteu y cyflawnid yr Ysgrythurau, mai felly y rhaid iddi fod?’
55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, ‘Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch.’ 56Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
Gerbron y Sanhedrin
57A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac a aeth i mewn ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd.
59A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 60Ac nis cawsant; ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 61ac a ddywedasant, ‘Hwn a ddywedodd, “Mi a allaf ddinistrio teml Dduw a’i hadeiladu mewn tri diwrnod.”’
62A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, ‘A atebi di ddim? Beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?’ 63Ond yr Iesu a dawodd.
A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, ‘Yr ydwyf yn dy orchymyn trwy lw yn enw’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.’ 64Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Ti a ddywedaist. Eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.’
65Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, ‘Efe a gablodd. Pa raid inni mwy wrth dystion? Wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 66Beth dybygwch chwi?’
Hwythau gan ateb a ddywedasant, ‘Y mae efe yn euog o farwolaeth.’ 67Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef, 68gan ddywedyd, ‘Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?’
Pedr yn Gwadu’r Iesu
69A Phedr oedd yn eistedd allan yn y cyntedd. A daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, ‘A thithau oeddit gyda Iesu y Galilead.’ 70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, ‘Ni wn beth yr wyt yn ei ddywedyd.’ 71A phan aeth efe allan i’r porth gwelodd un arall ef, a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, ‘Yr oedd hwn hefyd gyda Iesu o Nasareth.’ 72A thrachefn efe a wadodd trwy lw, ‘Nid adwaen i y dyn.’ 73Ac ymhen ychydig, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, ‘Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt, canys y mae dy leferydd yn dy fradychu.’ 74Yna y dechreuodd efe felltithio a thyngu, ‘Nid adwaen i y dyn.’ Ac yn y fan y canodd y ceiliog. 75A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, ‘Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith.’ Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw dost.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 26: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക