Mathew 21
21
Y Mynediad i Jerwsalem
1A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, 2gan ddywedyd wrthynt, ‘Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y fan chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. 3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, “Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt”, ac yn y fan efe a’u denfyn hwynt.’
4A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwyd, yn dywedyd:#Sechareia 9:9
5‘Dywedwch i ferch Seion,
“Wele, dy frenin yn dyfod atat,
yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen,
ac ebol, llwdn asen wedi arfer â’r iau.”’
6Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. 7A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac efe a eisteddodd ar hynny. 8A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill oedd yn torri cangau o’r coed ac yn eu taenu ar hyd y ffordd. 9A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned ar y blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, oedd yn llefain, gan ddywedyd:
‘Hosanna i fab Dafydd.
“Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.”
Hosanna yn y goruchafion.’#Salm 118:26
10Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfwyd, gan ddywedyd, ‘Pwy yw hwn?’ 11A’r torfeydd a ddywedasant, ‘Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.’
Glanhau’r Deml
12A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod. 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Y mae’n ysgrifenedig, “Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i,” eithr chwi a’i gwnaethoch yn “ogof lladron.”’#Eseia 56:7; Jeremeia 7:11
14A daeth y cloffion a’r deillion ato yn y deml, ac efe a’u hiachaodd hwynt. 15Ond pan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, ‘Hosanna i fab Dafydd’, hwy a lidiasant, 16ac a ddywedasant wrtho, ‘A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd?’
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed,
“O enau plant bychain a rhai yn sugno
y peraist foliant”?’#Salm 8:2
17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno.
Melltithio’r Ffigysbren
18A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19A phan welodd efe ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig; ac efe a ddywedodd wrtho, ‘Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach.’ Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, ‘Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!’ 21A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd, a heb amau, nid yn unig y gwnewch yr hyn a wnaethpwyd i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, “Coder di i fyny a bwrier di i’r môr”, hynny a fydd. 22A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.’
Amau Awdurdod yr Iesu
23Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, ‘Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?’
24A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? Ai o’r nef, ai o ddynion?’
A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, ‘Os dywedwn “O’r nef”, efe a ddywed wrthym, “Paham gan hynny nas credasoch ef?” 26Ond os dywedwn, “O ddynion”, y mae arnom ofn y bobl; canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd.’
27A hwy a atebasant yr Iesu, ac a ddywedasant, ‘Ni wyddom ni.’ Ac yntau a ddywedodd wrthynt, ‘Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Dameg y Ddau Fab
28‘Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab, ac efe a ddaeth at y cyntaf ac a ddywedodd, “Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.” 29Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, “Nid af”, ond wedi hynny bu edifar ganddo, ac efe a aeth. 30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, “Myfi a af, syr”, ac nid aeth efe. 31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad?’
Dywedasant wrtho, ‘Y cyntaf.’ Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yr â’r casglwyr trethi a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. 32Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y casglwyr trethi a’r puteiniaid a’i credasant ef. Chwithau, yn gweled, ni bu edifar gennych wedi hynny, fel y credech ef.
Dameg y Winllan a’r Llafurwyr
33‘Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd glawdd o’i hamgylch, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
35‘A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. 36Trachefn efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf; a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, “Hwy a barchant fy mab i.”
38‘Ond pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, “Hwn yw’r etifedd. Deuwch, lladdwn ef a meddiannwn ei etifeddiaeth ef.” 39Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. 40Am hynny pan ddêl perchennog y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny?’
41Hwy a ddywedasant wrtho, ‘Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau.’
42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythurau,
“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a wnaethpwyd yn ben congl.
Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
a rhyfedd yw yn ein golwg ni”?#Salm 118:22, 23
43Am hynny meddaf i chwi, y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi ac y’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir; ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.’
45A phan glywodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe. 46Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd, am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 21: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക

: