Mathew 2:1-2
Mathew 2:1-2 BWMTND
Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem, gan ddywedyd, ‘Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli ef.’