Mathew 15

15
Traddodiad yr Hynafiaid
1Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 2‘Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? Canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara.’
3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, “Anrhydedda dy dad a’th fam,” ac “Yr hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw.”#Exodus 20:12; 21:17 5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, “Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, ‘Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi’, ni raid iddo anrhydeddu ei dad na’i fam.” 6Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddi‐rym trwy eich traddodiad eich hun. 7O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi, gan ddywedyd:#Eseia 29:13
8“Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau,
a’m hanrhydeddu â’u gwefusau;
a’u calon sydd bell oddi wrthyf.
9Eithr yn ofer y’m haddolant i,
gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.”’
10Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, ‘Clywch a deellwch. 11Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau sydd yn halogi dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn.’
12Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, ‘A wyddost ti i’r Phariseaid gael eu tramgwyddo wrth glywed yr ymadrodd hwn?’ 13Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, ‘Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. 14Gadewch iddynt; tywyswyr deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.’
15A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, ‘Eglura i ni’r ddameg hon.’ 16A dywedodd yr Iesu, ‘A ydych chwithau eto heb ddeall? 17Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 18Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau sydd yn dyfod allan o’r galon, a’r pethau hynny a halogant ddyn. 19Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau. 20Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn; eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.’
Ffydd y Wraig o Ganaan
21A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd arno, gan ddywedyd ‘Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd. Y mae fy merch yn dioddef yn enbyd gan gythraul.’ 23Eithr nid atebodd efe iddi un gair.
A daeth ei ddisgyblion ato, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, ‘Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.’ 24Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, ‘Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.’
25Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, cymorth fi.’ 26Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, ‘Nid da cymryd bara’r plant a’i fwrw i’r cŵn.’ 27Hithau a ddywedodd, ‘Gwir yw, Arglwydd, ond y mae’r cŵn hwythau yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.’ 28Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, ‘Ha wraig, mawr yw dy ffydd. Bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio.’ A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.
Porthi’r Pedair Mil
29A’r Iesu a aeth oddi yno ac a ddaeth gerllaw môr Galilea, ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer; a hwy a’u gosodasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt, 31fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled. A hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, ‘Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. Ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.’
33A’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, ‘O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?’ 34A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Pa sawl torth sydd gennych?’ A hwy a ddywedasant, ‘Saith, ac ychydig bysgod bychain.’
35Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36A chan gymryd y saith dorth a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 37A hwy oll a fwytasant ac a gawsant eu digon, ac a godasant o’r briwfwyd oedd yn weddill, saith fasgedaid yn llawn. 38A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i’r llong ac a ddaeth i barthau Magdala.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 15: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക