Mathew 13

13
Dameg yr Heuwr
1Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. 2A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong ac yr eisteddodd; a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. 3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd: ‘Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. 4Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. 5Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd lle ni chawsant fawr ddaear; ac yn y fan yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear. 6Ac wedi codi yr haul, y poethasant, ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 7A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant ac a’u tagasant hwy. 8Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. 9Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.’
10A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, ‘Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?’
11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘I chwi y rhoddwyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd, ond ni roddwyd iddynt hwy. 12Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. 13Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion; canys a hwy yn gweled nid ydynt yn gweled, ac yn clywed nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseia, yr hon sydd yn dywedyd:
“Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch,
ac yn gweled y gwelwch ac ni chanfyddwch.#Eseia 6:9, 10
15Canys brasawyd calon y bobl hyn,
a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm,
ac a gaeasant eu llygaid;
rhag canfod â’u llygaid,
a chlywed â’u clustiau,
a deall â’r galon, a throi,
ac i mi eu hiacháu hwynt.”
16Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi am eu bod yn gweled, a’ch clustiau am eu bod yn clywed. 17Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
18‘Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. 19Pan glywo neb air y deyrnas, a heb ei ddeall, y mae’r Un drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. 20A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn clywed y gair, ac yn ebrwydd gyda llawenydd yn ei dderbyn; 21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae. A phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. 22A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a thwyll cyfoeth yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn clywed y gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.’
Dameg yr Efrau
24Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd: ‘Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes. 25A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.
27‘A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, “Meistr, oni heuaist ti had da yn dy faes? O ba le gan hynny y mae efrau ynddo?” 28Yntau a ddywedodd wrthynt, “Y gelyn ddyn a wnaeth hyn.” A’r gweision a ddywedasant wrtho, “A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt?”
29‘Ac efe a ddywedodd, “Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. 30Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, ‘Cesglwch yn gyntaf yr efrau a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llosgi, ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor.’ ”’
Dameg yr Had Mwstard a’r Surdoes
31Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd: ‘Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes; 32yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn nythu yn ei gangau ef.’
33Dameg arall a lefarodd efe wrthynt. ‘Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.’
34Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; a heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt, 35fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd:
‘Agoraf fy ngenau mewn damhegion;
mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.’#Salm 78:2
Egluro Dameg yr Efrau
36Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ. A’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, ‘Eglura i ni ddameg efrau’r maes.’
37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt: ‘Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn. 38A’r maes yw’r byd, a’r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas, a’r efrau yw plant y drwg. 39A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw’r diafol, a’r cynhaeaf yw diwedd y byd, a’r medelwyr yw’r angylion.
40‘Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac y llosgir hwy yn tân, felly y bydd yn niwedd y byd hwn. 41Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef bob achos tramgwydd a’r rhai a wnânt anghyfraith, 42ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân. 43Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
Y Trysor Cuddiedig a’r Perl Gwerthfawr
44‘Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano sydd yn myned ymaith ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw.
45‘Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatäwr yn ceisio perlau teg, 46yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.
Dameg y Rhwyd
47‘Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr ac a gasglodd o bob rhyw beth, 48yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’
51Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘A ddarfu i chwi ddeall hyn oll?’ Hwythau a ddywedasant wrtho, ‘Do, Arglwydd.’ 52A dywedodd yntau wrthynt, ‘Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.’
Gwrthod yr Iesu yn Nasareth
53A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. 54Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog, fel y synasant ac y dywedasant, ‘O ba le y daeth y doethineb hwn a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? 55Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? A Iago a Joses a Simon a Jwdas, ei frodyr ef? 56Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? O ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?’ 57A hwy a rwystrwyd ynddo ef.
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ei hun ac yn ei dŷ ei hun.’ 58Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 13: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക