Mathew 11

11
Yr Iesu a Ioan Fedyddiwr
1A bu, pan orffennodd yr Iesu roddi cyfarwyddyd i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu trefi hwy. 2A Ioan, pan glywodd yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion, 3a ddywedodd wrtho, ‘Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym i’w ddisgwyl?’
4A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. 5Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r gwahangleifion wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael clywed yr efengyl. 6A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.’
7Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, ‘Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? Ai corsen yn ysgwyd gan wynt? 8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. 9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd. 10Canys hwn ydyw ef am yr hwn yr ysgrifennwyd:
“Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb,
yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.”#Malachi 3:1
11Yn wir meddaf i chwi, ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr; er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef. 12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi. 13Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan. 14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias, yr hwn oedd i ddyfod. 15Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
16‘Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd, 17ac yn dywedyd, “Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.” 18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed, ac meddant, “Y mae cythraul ganddo.” 19Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, “Wele ddyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill casglwyr trethi a phechaduriaid.” A doethineb a gyfiawnheir gan ei phlant ei hun.’
Gwae i’r Trefi Anedifeiriol
20Yna y dechreuodd efe edliw i’r trefi yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent: 21‘Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent ers talm mewn sachliain a lludw. 22Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi. 23A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern; canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw. 24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn nag i ti.’
Gorffwystra i Enaid
25Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, ‘I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain. 26Ie, O Dad, canys felly y rhyngodd fodd i ti.
27‘Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad, ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad, ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.
28‘Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch. 29Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. 30Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.’

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 11: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക