Ioan 5

5
Iacháu’r Claf wrth Lyn Bethesda
1Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon, a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem. 2Ac y mae yn Jerwsalem, wrth Borth y Defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum cyntedd, 3yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr. 4Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu’r dwfr. Yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf ddeugain mlynedd namyn dwy. 6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, ‘A fynni di dy wneuthur yn iach?’ 7Y claf a atebodd iddo, ‘Syr, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn pan gynhyrfer y dwfr, ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i.’
8Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Cyfod, cymer dy wely i fyny, a rhodia.’ 9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach, ac efe a gododd ei wely ac a rodiodd. A’r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.
10Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, ‘Y Saboth yw hi; nid cyfreithlon i ti godi dy wely.’ 11Efe a atebodd iddynt, ‘Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach, hwnnw a ddywedodd wrthyf, “Cyfod dy wely, a rhodia.”’ 12Yna hwy a ofynasant iddo, ‘Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti, cyfod dy wely a rhodia?’ 13A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe, canys yr Iesu a giliasai, gan fod tyrfa yn y fan honno.
14Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, ‘Wele, ti a wnaethpwyd yn iach. Na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.’ 15Y dyn a aeth ymaith ac a fynegodd i’r Iddewon mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach.
16Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth. 17Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt, ‘Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.’ 18Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.
Awdurdod y Mab
19Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, oddieithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur. Canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur. 20Canys y Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur; ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi. 21Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw ac yn eu bywhau, felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno. 22Canys y Tad nid yw yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn i’r Mab, 23fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.
24‘Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu yn yr hwn a’m hanfonodd i, y mae ganddo fywyd tragwyddol, ac nid yw yn dyfod i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. 25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, y mae’r awr yn dyfod ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw, a’r rhai a glywant a fyddant byw. 26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun. 27Ac efe a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.
28‘Na ryfeddwch am hyn; canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef. 29A hwy a ddeuant allan, y rhai a wnaethant dda i atgyfodiad bywyd, ond y rhai a wnaethant ddrwg i atgyfodiad barn. 30Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan. Fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu; a’m barn i sydd gyfiawn, canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
31‘Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir. 32Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi. 33Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd. 34Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn; eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi. 35Efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36‘Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan; canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen — y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur — sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i. 37A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe ei hun a dystiolaethodd amdanaf fi. Ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef. 38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch; canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu ynddo. 39Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythurau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. 40Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
41‘Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i. Os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth yr unig Dduw?
45‘Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad; y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46Canys pe credasech chwi Moses, chwi a’m credasech innau; oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. 47Ond os chwi ni chredwch ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?’

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Ioan 5: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക