Lefiticus 1
1
1A’r ARGLWYDD a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r ARGLWYDD, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymwch eich offrwm. 3Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD. 4A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto. 5Lladded hefyd yr eidion gerbron yr ARGLWYDD; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau. 7A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân. 8A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
10Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith-gwbl. 11A lladded ef gerbron yr ARGLWYDD, o du’r gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch. 12A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a’i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
14Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r ARGLWYDD; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod. 15A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor. 16A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du’r dwyrain, i’r lle y byddo y lludw. 17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Lefiticus 1: BWMA
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പകർത്തുക
താരതമ്യം
പങ്ക് വെക്കു
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018

: