Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, gan ddywedyd, ‘Dywedwch, “Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.” Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddibryder.’ A hwy a gymerasant yr arian ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt, a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.