A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r gwahangleifion wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael clywed yr efengyl.