1
Marc 8:35
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
BWMA
Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi.
താരതമ്യം
Marc 8:35 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
2
Marc 8:36
Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
Marc 8:36 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
3
Marc 8:34
Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
Marc 8:34 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
4
Marc 8:37-38
Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.
Marc 8:37-38 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
5
Marc 8:29
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Crist.
Marc 8:29 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക