1
Mathew 10:16
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
BWMA
Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod.
താരതമ്യം
Mathew 10:16 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
2
Mathew 10:39
Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
Mathew 10:39 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
3
Mathew 10:28
Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.
Mathew 10:28 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
4
Mathew 10:38
A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi.
Mathew 10:38 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
5
Mathew 10:32-33
Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Mathew 10:32-33 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
6
Mathew 10:8
Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.
Mathew 10:8 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
7
Mathew 10:31
Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.
Mathew 10:31 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
8
Mathew 10:34
Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.
Mathew 10:34 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക