Mathew 3
3
Pregethu Ioan Fedyddiwr
1Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea, 2a dywedyd, ‘Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.’ 3Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseia y proffwyd, gan ddywedyd:
‘Llef un yn llefain yn y diffeithwch,
“Paratowch ffordd yr Arglwydd;
gwnewch yn union ei lwybrau ef.”’#Eseia 40:3
4A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen. 6A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, ‘O hiliogaeth gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8Dygwch gan hynny ffrwyth addas i edifeirwch. 9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, “Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni”. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r meini hyn gyfodi plant i Abraham. 10Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau. Pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr ac a deflir yn tân. 11Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau. Efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân.#3:11 Yn ôl rhai llsgrau ychwanegir ‘ac â thân’. 12Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.’
Bedydd yr Iesu
13Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo. 14Eithr Ioan a geisiodd ei rwystro ef, gan ddywedyd, ‘Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi?’ 15Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, ‘Gad yr awr hon, canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder.’ Yna efe a adawodd iddo. 16A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef. 17Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, ‘Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.’