1
Lefiticus 26:12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
비교
Lefiticus 26:12 살펴보기
2
Lefiticus 26:4
rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth.
Lefiticus 26:4 살펴보기
3
Lefiticus 26:3
“ ‘Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion
Lefiticus 26:3 살펴보기
4
Lefiticus 26:6
Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir.
Lefiticus 26:6 살펴보기
5
Lefiticus 26:9
Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi.
Lefiticus 26:9 살펴보기
6
Lefiticus 26:13
Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
Lefiticus 26:13 살펴보기
7
Lefiticus 26:11
Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.
Lefiticus 26:11 살펴보기
8
Lefiticus 26:1
“ ‘Peidiwch â gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Lefiticus 26:1 살펴보기
9
Lefiticus 26:10
Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd.
Lefiticus 26:10 살펴보기
10
Lefiticus 26:8
Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
Lefiticus 26:8 살펴보기
11
Lefiticus 26:5
Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad.
Lefiticus 26:5 살펴보기
12
Lefiticus 26:7
Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
Lefiticus 26:7 살펴보기
13
Lefiticus 26:2
Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD.
Lefiticus 26:2 살펴보기