1
Genesis 37:5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth.
비교
Genesis 37:5 살펴보기
2
Genesis 37:3
Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo.
Genesis 37:3 살펴보기
3
Genesis 37:4
Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho.
Genesis 37:4 살펴보기
4
Genesis 37:9
Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.”
Genesis 37:9 살펴보기
5
Genesis 37:11
A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
Genesis 37:11 살펴보기
6
Genesis 37:6-7
Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.”
Genesis 37:6-7 살펴보기
7
Genesis 37:20
Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.”
Genesis 37:20 살펴보기
8
Genesis 37:28
Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.
Genesis 37:28 살펴보기
9
Genesis 37:19
a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod.
Genesis 37:19 살펴보기
10
Genesis 37:18
Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd
Genesis 37:18 살펴보기
11
Genesis 37:22
Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.
Genesis 37:22 살펴보기