1
Exodus 20:2-3
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.
비교
Exodus 20:2-3 살펴보기
2
Exodus 20:4-5
“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu
Exodus 20:4-5 살펴보기
3
Exodus 20:12
“Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.
Exodus 20:12 살펴보기
4
Exodus 20:8
“Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig.
Exodus 20:8 살펴보기
5
Exodus 20:7
“Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
Exodus 20:7 살펴보기
6
Exodus 20:9-10
Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth
Exodus 20:9-10 살펴보기
7
Exodus 20:17
“Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”
Exodus 20:17 살펴보기
8
Exodus 20:16
“Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
Exodus 20:16 살펴보기
9
Exodus 20:14
“Na odineba.
Exodus 20:14 살펴보기
10
Exodus 20:13
“Na ladd.
Exodus 20:13 살펴보기
11
Exodus 20:15
“Na ladrata.
Exodus 20:15 살펴보기