1
Salmau 1:1-2-1-2
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Gwyn ei fyd y sawl na ddilyn Gyngor drwg, na loetran chwaith Ar y ffordd lle y tramwya Pechaduriaid ar eu taith, Na chydeistedd â gwatwarwyr, Ond sy’n cadw cyfraith Duw, Ac yn dwfn fyfyrio arni Beunydd beunos tra bo byw.
비교
Salmau 1:1-2-1-2 살펴보기
2
Salmau 1:3-4
Bydd fel coeden wedi’i phlannu Ar lan dŵr, yn dwyn ffrwyth da Yn ei phryd, a’i dail heb wywo. Llwydda ym mhob peth a wna. Nid fel hynny y drygionus, Ond fel us a yrr y gwynt, Yn ymdroelli yn yr awyr Cyn diflannu ar ei hynt.
Salmau 1:3-4 살펴보기
3
Salmau 1:5-6
Felly, ni saif y drygionus Yn y farn a ddaw ryw ddydd, Ac yng nghynulleidfa’r cyfiawn Pechaduriaid byth ni bydd. Y mae’r Arglwydd da yn gwylio Ffordd y cyfiawn ar bob llaw, Ond mae ffordd y rhai drygionus Yn diflannu a darfod draw.
Salmau 1:5-6 살펴보기
YouVersion은 여러분의 경험을 개인화하기 위해 쿠키를 사용합니다. 저희 웹사이트를 사용함으로써 여러분은 저희의 개인 정보 보호 정책에 설명된 쿠키 사용에 동의하게 됩니다
홈
성경
묵상
동영상