1
Y Salmau 2:8
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd, holl wledydd i’w ’tifeddu: Y cenedlaethau dros y byd, i gyd a gai meddiannu.
비교
Y Salmau 2:8 살펴보기
2
Y Salmau 2:12
Cusenwch y Mab rhag ei ddig, a’ch bwrw yn ffyrnig heibio: A gwyn ei fyd pob calon lân, a ymddiriedan yntho.
Y Salmau 2:12 살펴보기
3
Y Salmau 2:2-3
Codi y mae brenhinoedd byd, a’u bryd yn gydgynghorol: Yn erbyn Duw a’i Christ (ein plaid) y mae pennaethiaid bydol. Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy; ni wnawn ni mwy ufydd-dod: Ac ymaith taflwn eu trom iau, ni chant yn frau mo’n gorfod.
Y Salmau 2:2-3 살펴보기
4
Y Salmau 2:10-11
Am hyn yn awr frenhinoedd coeth, byddwch ddoeth a synhwyrol: A chwithau farnwyr cymrwch ddysg, i ostwng terfysg fydol. Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef, ac ofnwch ef drwy oglud: A byddwch lawen yn Nuw cu, etto drwy grynu hefyd.
Y Salmau 2:10-11 살펴보기
YouVersion은 여러분의 경험을 개인화하기 위해 쿠키를 사용합니다. 저희 웹사이트를 사용함으로써 여러분은 저희의 개인 정보 보호 정책에 설명된 쿠키 사용에 동의하게 됩니다
홈
성경
묵상
동영상